Gweithio gydag Ymestyn yn Ehangach
Caiff Arweinwyr Myfyrwyr eu recriwtio i gynorthwyo'r Tîm Ymestyn yn Ehangach a’r Tîm Camu i Fyny i gyflwyno ystod o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer plant a phobl ifanc o'r ysgol gynradd i'r chweched dosbarth. Mae nifer o brosiectau a digwyddiadau a gynigir drwy’r Cynllun Arweinydd Myfyrwyr Ymestyn yn Ehangach y gallwch gymryd rhan ynddynt. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys: ymweliadau ysgolion cynradd, uwchradd a chweched dosbarthiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar y campws ac mewn ysgolion; gweithdai sgiliau astudio, clybiau ar ôl ysgol, ysgolion haf, dosbarthiadau meistr pwnc penodol a sesiynau rhagflas a chystadlaethau a gweithdai llythrennedd a rhifedd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y rownd hon yw 20 Hydref 2024.
Manteision gweithio fel arweinydd myfyrwyr
- Tâl hael yn cychwyn ar £12.00
- Cyfle i gyflawni Gwobr Cyflogadwyedd ar lefel Efydd, Arian neu Aur ar gyfer eich HEAR.
- Cyfle i gael profiad cyflogaeth gwerthfawr
- Gwaith sy’n ffitio i’ch amserlen
- Datblygu sgiliau a nodweddion sy’n gallu gwella eich CV, eich ffurflen gais a’ch ymateb i gyfweliad
- Hyfforddiant am ddim
Prif Ddyletswyddau Arweinydd Myfyrwyr
1.Bod yn fodel rôl cadarnhaol ac yn llysgennad ar gyfer Addysg Uwch a Phrifysgol Abertawe.
2.Goruchwylio a chefnogi grwpiau o blant ysgol a myfyrwyr coleg wrth iddynt ymweld â'r Brifysgol
3.Cymryd rhan weithgar a chynorthwyo gyda chyflwyno gweithgareddau a chyflwyniadau ar-lein ac ar y campws i gynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr am fywyd Prifysgol.
4. Cynorthwyo wrth gynnal ymddygiad da yn ystod ymweliadau â'r campws ac oddi arno a rhoi gwybod am feysydd pryder, gan gynnwys pryderon am ddiogelu.
5. Datblygu ymwybyddiaeth o fanteision addysg Brifysgol, llwybrau i Addysg Uwch ac ymwybyddiaeth gyffredinol am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael a materion cyffredinol am fywyd myfyrwyr.
Meini Prawf Hanfodol
Yn ogystal â gweithio oddi mewn i werthoedd craidd y brifysgol rhaid i arweinwyr myfyrwyr fodloni’r canlynol:
- Bod yn fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig cyfredol, neu wedi graddio’n ddiweddar o Brifysgol Abertawe.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Bod yn wybodus am fywyd yn y Brifysgol.
- Medru gweithio fel rhan o dîm.
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau, ochr yn ochr â defnyddio menter.
- Medru deall unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd a theimlo empathi tuag atynt.
- Gallu ysbrydoli a chodi lefel dyheadau.
- Gallu ymddwyn mewn modd sy’n groesawgar, bod yn hawdd mynd atynt, a bod yn gyfeillgar i blant a phobl ifanc.
- Bod yn amyneddgar, yn gadarnhaol, yn hyblyg ac yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd heriol megis gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc sydd wedi colli diddordeb.
- Meddu ar sgiliau rheoli amser da.
- Bod yn amlwg frwd ynghylch Addysg Uwch.