Gan Victoria Bates, Ymgynghorydd Gwyddor Bywyd Annibynnol, ac Addysg Arweinyddi
Ni allai fod amser gwell i herio ein hymagwedd at gydweithredu ac ail-lunio/diwygio model yr ymgysylltu rhwng y sector Gwyddor Bywyd a Systemau Iechyd.
Wedi'u hannog gan effaith y pandemig byd-eang, mae arweinwyr iechyd ledled y byd yn wynebu heriau iechyd a gofal cynaliadwy a fforddiadwy.Mae cymhlethdod mynd i'r afael â phoblogaeth sy'n heneiddio, gyda chlefydau cronig a chydafiacheddau, systemau iechyd sydd eisoes dan bwysau a'r gwelliannau o ran cynnyrch meddygol a brechlynnau uwch a phersonol, yn golygu bod angen inni reoli buddsoddiad mewn iechyd mewn ffordd wahanol er mwyn adeiladu systemau iechyd cynaliadwy, effeithiol ar gyfer y dyfodol.
Gan gydweithredu er mwyn cyflawni canlyniadau sydd o bwys i gleifion ar y gost isaf bosib, lle y gwireddir gwerth ar gyfer y claf, mae'r system iechyd a'r sector gwyddor bywyd yn sicrhau ecosystem gynaliadwy - lle mae arloesedd yn parhau i ffynnu.Mae'r broses o gyflawni hyn yn gofyn am newid ymagwedd, gan sicrhau bod y claf yn cymryd rhan ragweithiol wrth wneud penderfyniadau, a bod hyn yn cael ei gefnogi gan y dystiolaeth orau, ein bod yn rhoi'r gorau i arferion a chanddynt werth isel ac yn lleihau amrywiaeth ddiangen, gan ryddhau adnoddau i'w buddsoddi mewn ymyriadau a chanddynt werth uchel er mwyn cefnogi canlyniadau gwell.
Er gwaethaf y tensiynau disgwyliedig wrth i'r sectorau cyhoeddus a phreifat weithio fel partneriaid, mae gan y ddau sefydliad uchelgais a rennir - sef gwella bywydau'r cleifion.Pan fydd arweinwyr yn gallu creu'r lle a'r cyfle i wahodd meddwl yn wahanol er mwyn creu datrys problemau;gellir gwireddu'r potensial i greu atebion cynaliadwy sy'n cyflenwi gwerth a rennir.
Yn 2019, mewn cydweithrediad â chydweithwyr academaidd yn yr Ysgol Reolaeth a chan gymorth HTC Accelerate, gwnaethom gynnal astudiaeth er mwyn archwilio'r 'cyflyrau' angenrheidiol i gefnogi cydweithrediadau llwyddiannus a galluogi inni fabwysiadu Gofal Iechyd ar sail Gwerthoedd1.Fel rhan o'r gwaith hwn, gwnaethom gyfweld â 48 o arweinwyr o'r holl faes gofal iechyd a'r sector gwyddor bywyd er mwyn helpu i nodi modelau ymgysylltu'r dyfodol ac ystyried y sgiliau sydd eu hangen wrth ymgysylltu â gwaith cydweithredol, gan alluogi inni gael mynediad at arloesedd, a'i fabwysiadu, yn y dyfodol.
Yn ein hadolygiad llenyddiaeth cychwynnol, gwnaethom nodi pum cyflwr arweiniol sydd eu hangen ar gyfer cydweithredu'n llwyddiannus.Y rhain oedd:amlddisgyblaethedd;defnyddio isadeiledd technolegol priodol;dal metrigau ystyrlon;deall y cylch ofal yn ei gyfanrwydd;a chael y gallu i gyflawni hyblygrwydd ariannol.Rydym yn awgrymu bod y pum cyflwr hyn yn rhoi fframwaith sylfaenol i alluogi cydweithrediadau llwyddiannus mewn tirwedd gofal iechyd cymhleth.Fodd bynnag, er mwyn llwyddo mae'n amlwg hefyd y bydd angen cynllunio strategol gofalus i gefnogi'r gwaith o gydweddu'r sectorau preifat a chyhoeddus. I'r diben hwn, rydym yn archwilio rhagor o ffactorau, megis gallu sefydliadau i aros yn strategol ac yn ystwyth wyneb yn wyneb â'r cymhlethdod sy'n nodweddiadol o roi cydweithrediadau newydd ar waith mewn Gofal Iechyd ar sail Gwerthoedd.
Gwnaethom ddilysu'r fframwaith hwn gyda chyfranogwyr yr astudiaeth, a thu hwnt i'r fframwaith archwilio'r nodweddion angenrheidiol ar gyfer cydweithredu'n effeithiol.Gwnaethom nodi y gellid casglu'r rhain mewn tair thema:-
- Cyfarpar Cywir
- Prosesau Cywir
- Pobl Gywir
- Yn gyffredinol, roedd y cyfarpar yn nodweddiadol o'r angen hanfodol am dechnoleg a all ddal a gwerthuso data - mwy effeithiol fydd y casglu data ledled yr holl lwybr gofal, mwy cynhwysfawr fydd y penderfyniadau a'r canlyniadau y gellir eu hasesu.
- Roedd y prosesau a ddyfynnwyd yn gyson gan gyfranogwyr yn cynnwys llywodraethu ystwyth ond cadarn er mwyn galluogi hyder yn y bartneriaeth, a'r gallu i ddwyn ei gilydd i gyfrif a gweithredu'n dryloyw.Y gallu i ddiffinio a dal metrigau'r canlyniadau, a'r gallu i nodi a gwobrwyo'r ymagwedd mewn modd gwahanol i'r model traddodiadol o gymryd meddyginiaethau.
- Yn olaf, gwnaeth y bobl gywir nodi'r newidiadau angenrheidiol o ran ymgysylltu, gan gydnabod mai mater o ddiwylliant oedd hyn yn ogystal â sgiliau.Sicrhau bod gan yr arweinydd sy'n cychwyn gwaith cydweithredu y gallu a'r annibyniaeth i archwilio'r bartneriaeth, ei fod wedi'i arfogi ar gyfer deall tirwedd gofal iechyd a'i fod yn gallu ymgysylltu â rhwydwaith ehangach er mwyn dod â'r meddylfrydau cywir at ei gilydd i greu atebion ar y cyd.
- Cydweithredu er mwyn Cyflawni Gwerth ym maes Gofal Iechyd:Archwilio'r amodau sydd eu hangen er mwyn cydweithredu'n llwyddiannus rhwng maes Gofal Iechyd a'r Sector Gwyddor Bywyd
Fel rhan o'n rhaglen Addysg Weithredol Iechyd a Gofal ar sail Gwerthoedd, rydym yn archwilio ymhellach yr ymagweddau sydd eu hangen ar gyfer cydweithredu, er mwyn galluogi arweinwyr i adolygu'r dystiolaeth, dadlau ag arweinwyr eraill, meithrin rhwydwaith ehangach a defnyddio'r dysgu er mwyn gwneud mwy i droi'r canfyddiadau hyn i fod yn werth.
- Cydweithredu i Gyflawni Gwerth ym maes Gofal Iechyd: Archwilio amodau gofynnol ar gyfer Cydweithredu Llwyddiannus rhwng y Sector Gofal Iechyd a’r sector Gwyddor Bywyd. Daniel J Rees, Victoria Bates, Roderick Thomas, Simon B. Brooks, Leighton Phillips, Hamish Laing, Gareth Davies, Michael D. Williams ac Yogesh K. Dwivedi. https://doi.org/10.1108/tg-05-2020-0074
Ysgrifennwyd y Blog gan: Victoria Bates, Ymgynghorydd Gwyddor Bywyd Annibynnol, ac Addysg Arweinyddiaeth
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2020