Pŵer partneriaethau

Mae byd busnes heddiw yn wahanol iawn i fyd busnes y ganrif ddiwethaf. Mae sefydliadau o bob maint bellach yn wynebu heriau sy'n bygwth eu busnes bob dydd mewn amgylchedd sy'n gynyddol ddynamig a chyflym. Bydd partneriaeth â'r Ysgol Reolaeth yn galluogi eich cwmni i ddatblygu, esblygu a ffynnu mewn tirwedd sy'n newid yn gyson.

Drwy weithio gyda ni, cewch gyfle i ryngweithio â meddylwyr mwyaf disglair ac uchelgeisiol y dyfodol, yn ogystal chydweithio â'n hymchwilwyr eithriadol. Gallwn eich helpu i hyfforddi a datblygu'ch gweithlu fel y byddant yn hollol barod i fynd i'r afael â'r heriau y bydd eich cwmni yn eu hwynebu.