Gan Frederic Boy, PhD, Athro Cysylltiol mewn Rheolaeth a Seicoleg
Mae’r cyfnod cyfyngiadau symud sy’n datblygu bellach yn sefyllfa sy’n cyfyngu, ond hefyd mae’n gyfle prin i gasglu data am y ffordd mae cymunedau’n ymateb i gyfyngiadau llym, sydyn ar symud a chysylltu’n gymdeithasol. Am y tro cyntaf ar ôl y rhyfel yn Ewrop, mae gan ran fwyaf y bobl, boed yn gweithio o bell, ar absenoldeb ffyrlo, heb fod yn gweithio neu wedi cael eu diswyddo’n ddiweddar, ychydig o bethau’n gyffredin:
- Maent wedi’u hynysu’n gymdeithasol yn fwy nag o’r blaen
- Maent yn byw â thechnoleg gysylltiedig y maent yn gallu ei defnyddio i fynegi eu hanhawsterau seicolegol neu chwilio am gymorth, yn ddienw
Ymhen wythnosau, mae’r dyfodol rydym i gyd yn ei wynebu wedi troi’n fwy ansicr, ac efallai bydd newid cymdeithasol byd-eang ar y gweill yn fuan. Bydd ein perthynas â theithio, gweithio, ymgysylltu’n gymdeithasol, neu astudio, yn cael ei thrawsnewid am gyfnod na ellir ei ragweld. Nid oes dianc o effaith y newidiadau hynny ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a bydd angen ystyried yr effaith hon wrth lunio polisïau er mwyn ffynnu eto yn y dyfodol ar ôl yr argyfwng. Rydym yn credu y gallai gweithredu a chyfathrebu’r canlyniadau presennol yn gyflym roi mesurau lles i wneuthurwyr cyfreithiau a pholisïau yn uniongyrchol, a fydd yn helpu i deilwra ymatebion perthnasol a gwella ymgysylltu dinesig.
Yn ystod y misoedd cyn y pandemig yng ngorllewin Ewrop, dechreuodd ein tîm yn yr Ysgol Reolaeth (ar y cyd â Dr Annie Tubadji, Dr Wayne Thomas, yr Athro Don Webber, Dr Daniele Doneddu a Khalda Alkenane, myfyrwraig doethur) raglen ymchwil sy’n ystyried sut mae pobl yn chwilio ar-lein ar destun eu lles a sut maent yn mynegi eu trafferthion seicolegol.
Roeddem wedi creu cyfres o feddalwedd Ddeallusrwydd Artiffisial newydd a dulliau er mwyn cloddio data ar y we. Cloddio data yw’r broses o ddarganfod patrymau ystyrlon mewn setiau data mawr gan gynnwys dulliau sy’n cyffwrdd â dysgu peirianyddol, ystadegau, ac ieithyddiaeth. Wrth i’r epidemig ddatblygu yn nhalaith Wuhan, wedyn symud i Ewrop a throi’n bandemig, roeddem yn barod i ddefnyddio’n harbenigedd er mwyn ystyried materion ynghylch mynegi trafferthion seicolegol ar-lein, yn rhyngwladol ac mewn amser go iawn.
Yn wir, trodd y pandemig cyfredol a’r cyfnod cyfyngu ar symudiadau dilynol i fod yn gyfleoedd prin, annisgwyl a brys i ddeall sut mae argyfyngau byd-eang sydyn yn effeithio ar unigolion. Nod y rhaglen ymchwil hon oedd cynorthwyo’r ymdrechion presennol i ddylanwadu ar bolisïau yn y dyfodol a fydd yn seiliedig ar ddata, ac i adeiladu cymunedau gwytnach yn y pen draw.
Yn gyntaf gwnaethom archwilio degau o biliynau o ymchwiliadau drwy Google ar fwy na mil o ddiwrnodau (2017-2019). Ninnau oedd y bobl gyntaf i ddarganfod bod gan nifer yr ymchwiliadau am eiriau allweddol sy’n ymwneud â thrafferthion seicolegol (megis “anxiety”, “stress”, hunanladdiad), batrwm rhythmig yn ystod y dydd, a bod cyfran helaeth yr ymchwiliadau’n digwydd gyda’r hwyr (gan gyrraedd brig am 02:00, gweler y Ffigwr). Yn yr un modd, darganfuom batrymau wythnosol (a ddisgrifir yn ‘dymhorol’ hefyd) yn yr ymchwiliadau hynny sy’n dangos yn glir effaith yr wythnos waith ar ymddygiad pobl wrth chwilio am wybodaeth ynghylch iechyd meddwl (gweler y Ffigwr). Yn bell o fod yn ddibwys, mae’r patrymau tymhorol cadarn iawn hynny yn nodweddiadol o fywyd mewn cymdeithas gysylltiedig, y mae aelodau’r gymdeithas honno wedi darganfod dulliau er mwyn mynegi’u hanhwylderau seicolegol, ac efallai chwilio am wybodaeth a chymorth.
Beth sy’n digwydd i ddata o’r fath? Sut gellir eu defnyddio yn sefyllfa’r pandemig bresennol? Yn gyntaf, bydd ymchwil fel hon yn mynd trwy broses o ‘adolygu gan gymheiriaid’: caiff y broses a chanlyniadau’r ymchwil eu gwerthuso gan arbenigwyr yn y maes gan ystyried eu hansawdd a’u dibynadwyaeth. Os cânt eu dyfarnu’n safonol, cânt eu cyhoeddi. Ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, gellid defnyddio’r canlyniadau hyn er mwyn dylanwadu ar greu polisïau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl brys a llinellau cymorth mewn argyfwng. Efallai byddai gwybod bod unigolion yn debycach o chwilio am wybodaeth drwy ddefnyddio geiriau allweddol penodol ynghylch iechyd meddwl ar adegau penodol (a bregus) o’r dydd, yn hybu ymateb gwahanol wrth ddarparu gofal iechyd meddwl. Er hynny, nid ydym yn cyfyngu’n hymdrechion i faes iechyd meddwl, rydym yn ystyried meysydd eraill hefyd lle gellir addasu’n methodoleg a’n systemau arbenigol er mwyn cynorthwyo wrth lunio polisïau a chyfreithiau, a’u gwerthuso’n gyflym.
Yn ganolog i’n dull yw’r defnydd cyfun o ddata mawr, Deallusrwydd Artiffisial (Dysgu Ystadegol), Seicoleg, Economeg Ddiwylliannol, Economeg Draethiadol ac Ieithyddiaeth er mwyn ymchwilio i’r ffordd mae pobl yn deall sefyllfaoedd cymhleth sy’n digwydd mewn cyd-destun o wybodaeth ddeinamig.
Ysgrifennwyd y Blog gan: Frederic Boy, PhD, Athro Cysylltiol mewn Rheolaeth a Seicoleg
Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2020