Pe bai rhywun yn rhoi ceiniog i ni bob tro i rywun ofyn hyn...
Rydym ni'n clywed y cwestiwn hwn llawer. Nid ydym yn siŵr o ble mae'r enw gwael hwn yn dod. Efallai delwedd Ddickensaidd o Scrooge, yn cyfrif ei ddarnau o arian mân, neu ofn cynhenid o fathemateg yn yr ysgol. Y realiti yw bod cyfrifeg yn eithaf anhygoel ac mae'n bwysig iawn, iawn ym myd busnes.
Beth am ystyried cyfrifeg fforensig fel enghraifft benodol o achosion Al Capone ac OJ Simpson.
Ym 1931, cyfrifydd oedd yr un i ddymchwel ymerodraeth droseddol Al Capone, a oedd yn werth $1.3 biliwn, gan ddatgelu efadu trethi ar raddfa anferthol. Pan dderbyniodd OJ Simpson reithfarn o ddieuogrwydd, ceisiodd ei ddioddefwyr gael iawndal ariannol. Honnodd OJ nad oedd unrhyw arian ganddo, gan ddweud nad oedd ganddo 'yr un geiniog'. Fodd bynnag, datgelodd cyfrifyddion fforensig fel arall, gan arwain at ddyrannu setliad gwerth $33 miliwn i'w ddioddefwyr.
Ond nid yw popeth yn ddeunydd y dudalen flaen. Mewn gwirionedd, mae cyfrifeg llawer yn fwy na hynny. Wyddech chi y gall cyfrifydd weithio mewn unrhyw fath o fusnes, mewn unrhyw sector, yn unrhyw ran o'r byd? Gallwch chi weithio i bron â bod unrhyw gyflogwr pan fydd gennych chi radd mewn cyfrifeg. Prin yw swyddi sy'n cynnig y fath hyblygrwydd. Mae'r posibiliadau’n ddiderfyn. Gallech chi weithio i fusnes bach, lleol, cwmni cyfrifeg neu hyd yn oed un o frandiau mwyaf y byd, megis Facebook, Coca-Cola neu Microsoft.
Fodd bynnag, mae'n cynnig mwy nag elw mawr yn unig. Mae cynifer o gyfleoedd yn y trydydd sector, er enghraifft gweithio i elusennau, mentrau cymdeithasol neu sefydliadau nid-er-elw eraill. Byddwch yn gweithredu fel rhaff achub eich sefydliad, gan ei dywys drwy'r hyn sy'n gallu bod yn sector heriol. Ond yn bwysicach na hynny, byddwch chi'n chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi cymunedau ar lefel leol.
Rydym ni wedi sylwi bod ystrydeb o gyfrifyddion sy'n faich ar y diwydiant. Hynny yw, yr ystrydeb o grenswyr rhifau gwrthgymdeithasol, wedi'u clou mewn swyddfa a'u llygaid yn sownd wrth sgriniau cyfrifiadur. Ond mewn gwirionedd, gall hyn fod yn wir am unrhyw broffesiwn mewn swyddfa. Yr hyn rydych chi'n ei gynnig sy'n bwysig. Wnaeth yr ystrydeb hwn ddim dal pobl fel Mick Jagger, Venus Williams ac Eddie Izzard yn ôl pan wnaethon nhw ddewis i astudio'r pwnc yn y brifysgol.
Nawr, beth am i ni ystyried Nike. Pan fyddwch chi'n gweld y gair 'Nike', beth sy'n dod i gof? Mwy na thebyg topiau uchel, rhagoriaeth chwaraeon, MJ a Last Dance Netflix? Mae'n frand ag enw da rhyngwladol sy'n ddengar, â moesau cryf ac yn bwerdy ariannol gwerth biliynau. Mae ganddo fwy na 70,000 o gyflogeion yn fyd-eang, a gall fod yn anodd credu mai amgylchynu ei hun â chyfrifyddion a chyfreithwyr yn unig a wnaeth Phil Knight, cyd-sefydlydd y cwmni, pan lansiodd y busnes yn wreiddiol. Nid oedd ef eisiau pobl greadigol, dylunwyr na marchnatwyr. Yn ei hunangofiant, Shoe Dog, cyfaddefodd ei fod am gyflogi pobl "â meddwl craff." Dywedodd: "Dyna oedd ein blaenoriaeth, ac roedd cyfrifyddion (a chyfreithwyr) eisoes wedi profi y gallant feistroli pwnc anodd."
Mewn gwirionedd, gwnaethon ni anghofio sôn am y ffaith mai cyfrifydd oedd Phil Knight cyn dyfodiad Nike. Felly gyda gradd mewn cyfrifeg, fyddwch chi ddim yn sownd i un sector penodol. Mewn gwirionedd, mae’n agor llawer o ddrysau i chi.
Wrth reswm, mae ffeithiau eraill sy'n berthnasol i gyfrifyddion, ond byddwn ni'n rhoi rhestr gryno i chi o'r rhain. A yw'n amlwg ein bod ni'n dwlu ar gyfrifyddu yn yr Ysgol Reolaeth eto?
- Mae mwy na 2.1 miliwn o gyfrifyddion siartredig yn y byd – a chyfleoedd di-ri o ran swyddi!
- Mae'r FBI yn penodi mwy na 2,000 o gyfrifyddion
- Cyfrifyddion sy'n rheoli'r bleidlais ar gyfer gwobrau'r Oscars; PricewaterhouseCoopers sy'n rheoli'r rhain i gyd
- Cafodd gwm cnoi ei greu gan gyfrifydd, Walter Diemer
Mae'n dweud y cyfan. Mae'n wir, gallwch chi feddu ar syniadau busnes gwych, a chanlyniadau cyffrous ond bydd angen cyfrifyddion arnoch chi i wireddu'r syniadau hynny. Mae cyfrifyddion yn creu'r llwybr a fydd yn galluogi busnes i lwyddo.
Cynlluniwyd y llwybrau Cyfrifeg yn yr Ysgol Reolaeth i ddatblygu eich set o sgiliau nid yn unig fel cyfrifydd ond fel unigolyn â chraffter busnes rhagorol. Nid yn unig y cewch chi eich addysgu am hanfodion cyfrifeg, byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am bynciau eraill syn hanfodol i faes busnes, megis datblygu busnes, marchnata ac economeg. Rydym ni'n falch o fod yn gartref i raddedigion cyfrifeg a chyllid llwyddiannus sydd wedi mynd ymlaen i wneud pethau gwych yn lleol ac yn fyd-eang.
Eisiau siarad â rhywun am astudio gyda ni? Cysylltwch â'n tîm recriwtio a byddant yn gallu trafod yr opsiynau â chi.
Gobeithiwn eich croesawu chi i Abertawe cyn hir!
Dyddiad cyhoeddi: 06/07/2020