1. Beth yw’r Economi Gylchol?
System lle bydd deunyddiau megis deunyddiau a chyfarpar yn cael eu defnyddio, eu hailddefnyddio a’u haddasu at ddibenion gwahanol mor effeithiol â phosibl ac am gyhyd â phosibl yw’r economi gylchol. Yn ein hachos ni, rydyn ni eisiau i’r sector gyhoeddus yn rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Bae Abertawe weithio’n effeithiol gyda’i gilydd er mwyn iddyn nhw ailfeddwl sut mae eu hadnoddau yn cael eu rheoli a’u rhannu mewn prosiectau a gwasanaethau newydd a chyfredol fel eu bod yn gallu gwneud y gorau o’r buddiannau ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol o fewn y sefydliad. Gallai hyn ddigwydd drwy:
- Gaffael cynhyrchion sy’n cael eu hailwampio, eu hailweithgynhyrchu neu sy’n cynnwys deunyddiau wedi’u hailgylchu a/neu gynhyrchion y bwriedir eu hailddefnyddio a’u trwsio, a hynny am amser hir i’r dyfodol
- Caffael gwasanaethau sy’n rhoi mynediad i gynnyrch (er enghraifft, gosod ar rent neu brydlesu dodrefn neu gyfarpar meddygol)
- Rhoi prosesau ar waith sy’n caniatáu i sefydliadau gwahanol yn y sector cyhoeddus rannu adnoddau megis cyfarpar a staff yn effeithiol
- Adeiladu rhwydweithiau sy’n caniatáu i adnoddau eraill yn y sector cyhoeddus megis cymhorthion meddygol, TG neu ddodrefn gael eu haddasu at ddibenion gwahanol a’u hailddefnyddio mewn sefydliadau eraill
- Adeiladu partneriaethau sy’n troi gwastraff anorfod yn y sector cyhoeddus yn adnoddau ar gyfer diwydiant arall, er enghraifft, ailbrosesu dyfeisiau meddygol PVC untro yn gynnyrch newydd megis clymau coed
- Llunio polisïau sy’n sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus sy’n effeithlon eu hadnoddau yn cael eu cyflenwi (er enghraifft, canllawiau ar ôl-osod tai cymdeithasol neu ddefnyddio ynni adnewyddadwy ym maes trafnidiaeth gyhoeddus)
Ceir llawer mwy o gyfleoedd posibl eraill yn yr economi gylchol ac rydyn ni’n awyddus i weld pa syniadau sydd gennych chi!
2. Beth yw prosiect Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol?
Prosiect wedi’i ariannu’n llawn yw Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC). Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan ymarferwyr sy’n meddu ar lawer o flynyddoedd o brofiad ar y cyd ac sy’n rhoi’r wybodaeth, y sgiliau, y profiad a’r amgylchiadau dymunol i sefydliadau cyhoeddus yn rhanbarthau Prifddinas Caerdydd a Bae Abertawe adnabod a datrys heriau cyffredin ar y cyd. Mae ein dull o weithio yn annog y sawl sy’n cymryd rhan i edrych ar yr heriau o safbwynt economi gylchol – sut gallwn ni roi datrysiadau ar waith sy’n effeithlon eu hadnoddau, yn wydn ac yn isel eu carbon o ran eu dyluniad? Mae’r prosiect yn cynnwys 14 o raglenni ac mae pob un yn rhedeg yn ystod 10 mis. Maen nhw’n cynnwys cyfuniad o weithdai rhithwir a gweithdai ‘yn y fan a’r lle’, ymweliadau â safleoedd, dysgu drwy weithredu a gweithgareddau cefnogi gan arbenigwyr. Bydd saith yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Abertawe a saith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a byddan nhw’n rhedeg tan 2023.
3. Beth yw Cymuned Arloesi?
Grwpiau o bobl o’r un anian (Cymunedau Ymarfer) yw Cymunedau Arloesi o’r tu mewn i sector cyhoeddus Cymru sy’n rhannu heriau cyffredin ac sy’n ymrwymedig i weithio ar y cyd er mwyn eu datrys.
4. Beth yw manteision mabwysiadu dulliau’r economi gylchol yn sefydliadau’r sector cyhoeddus?
Gall mabwysiadu dull yr economi gylchol helpu’r sector cyhoeddus i sicrhau manteision ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol yn ogystal â chydymffurfio â’r orfodaeth statudol sydd arnynt i leihau eu hôl troed carbon. Mae mabwysiadu dull yr economi gylchol yn cynyddu gallu’r sefydliad i roi arferion gorau ar waith, sy’n arwain at lai o effaith amgylcheddol a lleihad mewn costau. Mae’n annog sefydliadau yn y sector cyhoeddus i ystyried y ffordd maen nhw’n ailddefnyddio, yn ailweithgynhyrchu ac yn ailaddasu at ddibenion gwahanol eitemau a fyddai fel arfer yn cyrraedd safleoedd tirlenwi. Gall hefyd gyfrannu tuag at ddadgarboneiddio’r sector cyhoeddus a rhoi tystiolaeth o sut mae sefydliad yn cydymffurfio â nodau “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”
Bydd y rhaglen yn creu cymunedau arloesi o ymarfer ar y cyd (rhwydweithiau) ar draws nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn rhanbarth de Cymru. Bydd y rhain yn hwyluso ac yn hyrwyddo gwaith rhanbarthol ac yn galluogi’r sefydliadau i ddatrys eu problemau cyfredol. Bydd yn gwella arloesi ym maes gwybodaeth a sgiliau a all yn ei dro wella cynhyrchiant a gallu’r unigolyn a’r sefydliad i arloesi.
Wrth i’n prosiect fynd rhagddo byddwn ni’n ychwanegu rhagor o astudiaethau achos sy’n dangos hyn yn ymarferol.
5. All cyrff cyhoeddus nad ydynt yn y sector cyhoeddus gymryd rhan?
Bwriedir y rhaglen yn bennaf ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Serch hynny, rydyn ni’n gallu cynnwys nifer fach o sefydliadau trydydd sector o fewn pob carfan yn seiliedig ar eu gwerth i’r broblem y mae’r garfan eisoes yn mynd i’r afael â hi.
6. Oes cost ar gyfer y rhaglen hon? / Sut mae’r rhaglen yn cael ei hariannu?
Does dim cost i’r sawl sy’n cymryd rhan neu i’r sefydliad. Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r rhaglen yn llawn. Mae’r rhaglen yn gofyn i’r sawl sy’n cymryd rhan ddarparu arian cyfatebol mewn nwyddau (amser) gyda chefnogaeth ei sefydliad ar ffurf tystiolaeth o’r amser a werir ar y rhaglen. [RG11] Defnyddir pob awr a waria’r sawl sy’n cymryd rhan ar y rhaglen, naill ai drwy fynychu gweithdai neu weithgareddau datblygu yn ei sefydliad, fel tystiolaeth yn hyn o beth. Os bydd cyfranogwr yn ymrwymo 2 ddiwrnod ar gyfer pob un o’r 10 mis (10% o’i oriau wedi’u contractio), yna cyfrifir gwerth yr oriau hyn ar sail cyflog a bydd yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth o Arian Cyfatebol.
7. Oes rhaid imi fod yn arweinydd neu’n uwch-reolwr i gymryd rhan?
Bwriedir CEIC yn bennaf ar gyfer arweinwyr a rheolwyr mewn endidau yn y sector cyhoeddus yn rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Bae Abertawe. Mae cynnwys arweinwyr a rheolwyr yn rhoi i’r garfan y cyfle gorau o roi eu cynlluniau arloesol ar waith o fewn y sefydliadau. Fodd bynnag, gwyddom fod llawer o gyfyngiadau ar amser arweinwyr a rheolwyr – a bod cymunedau arloesi yn gweithio orau pan fyddan nhw’n cynnwys pobl frwdfrydig ac angerddol sy’n awyddus i ddwyn y maen i’r wal. Am y rheswm hwn, os ydych chi’n meddwl y gallwch chi gyfrannu rhywbeth i CEIC, cysylltwch â ni! Y cwbl rydyn ni’n gofyn yw bod eich rheolwr yn cefnogi’n ffurfiol eich cyfranogiad yn y rhaglen.
8. Oes rhaid imi fod wedi fy nghyflogi’n amser llawn yn y sector cyhoeddus i gymryd rhan?
Nac oes. Serch hynny, dylech chi fod yn ymwybodol mai rhaglen 10 mis yw CEIC gan gynnwys cyfres o weithgareddau wedi’u trefnu ymlaen llaw a gynhelir mewn rhai achosion dros nifer o ddiwrnodau. Bydd hefyd yn golygu ymweliadau â safleoedd wedi’u trefnu ymlaen llaw. Fel rhan o’r rhaglen bydd angen amser arnoch chi pan fyddwch chi yn ôl yn eich sefydliad i arbrofi gyda newidiadau a’u rhoi ar waith. Rydyn ni’n amcangyfrif mai’r ymrwymiad o ran amser fydd 2 ddiwrnod y mis o leiaf ac rydyn ni’n gofyn i’ch sefydliad dystio i hyn drwy anfon llythyr secondio fydd yn caniatáu ichi dreulio 10% o’ch amser ar y rhaglen am 10 mis.
Siaradwch â ni i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen o weithgareddau ac yna trafodwch hyn â’ch rheolwr.
9. Beth fydda i’n ei wneud ar CEIC?
Byddwch chi’n cymryd rhan mewn cymuned arloesi o ymarfer sef cyfres o weithdai, ymweliadau â safleoedd, dysgu drwy weithredu, dysgu gyda chymheiriaid a gweithgareddau cefnogi gan arbenigwyr. [RG12] Yn ystod y cyfnod hwn o gysylltiad cyfyngedig gyda phobl eraill, hwyrach y caiff y rhaglen ei chynnal drwy gyfuniad o weithgareddau rhithwir a rhai ‘yn y fan a’r lle’ yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Mae CEIC yn defnyddio proses meddwl drwy ddylunio; yn y lle cyntaf bydd yn cynnwys ‘digwyddiad dysgu drwy brofiad’ fydd yn parhau am ddau ddiwrnod. Bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno cysyniadau meddwl drwy ddylunio ac yn ymchwilio yn fanylach i’r economi gylchol. Byddwch chi’n dechrau ffurfio eich cymuned arloesi yma.
Bob mis, bydd gweithdy yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar y broses meddwl drwy ddylunio:
- Empathi - byddwch chi’n dod i wybod mwy am y rhanddeiliaid gwahanol sy’n cymryd rhan mewn problem ac yn trin a thrafod gyda nhw i gasglu ynghyd a chysoni’r safbwyntiau lliaws ynglŷn â’r broblem.
- Diffiniad – byddwch chi’n profi eich rhagdybiaethau cychwynnol drwy eu cymharu â safbwyntiau’r rhanddeiliaid ac yn ailfframio’r broblem o safbwynt y defnyddiwr.
- Creu syniadau – byddwch chi’n creu ar y cyd ffyrdd lliaws o fynd i’r afael â’r broblem. Bydd pob un o’r rhain yn ymgorffori’r dull o feddwl am yr economi gylchol ac yna byddwch chi’n dewis pa un yw’r un mwyaf addawol
- Prototeipio – byddwch chi’n adeiladu modelau corfforol a meddyliol o’ch syniadau arloesi arfaethedig.
- Profi – pan fyddwch chi’n trin a thrafod gyda’ch rhanddeiliaid i brofi a datblygu ar y cyd syniadau ‘yn y fan a’r lle’ a dysgu sut i dderbyn methiant neu lwyddiant.
- Asesu – mae hyn yn cynnwys ymchwilio i ba mor dda mae eich datrysiad arfaethedig yn cyflawni eich amcanion/nodau terfynol
- Ailadrodd – byddwch chi’n magu hyder i luchio cysyniadau, mynd nôl i’r cychwynbwynt a chyflwyno syniadau newydd ar adegau gwahanol yn ystod y broses.
Bydd y gweithdai yn cael eu cefnogi gan ymweliadau ‘ymarfer da’ i sefydliadau arloesol pan fyddwch chi’n dysgu am beth sy’n gweithio a rhaglenni cyfnewid rhwng partneriaid CEIC. Bydd hyn yn rhoi cipolwg ichi ar sut mae pethau’n gweithio yn eu sefydliad.
Ar ddiwedd pob gweithdy, byddwch chi’n derbyn tasgau paratoi ar gyfer y gweithdy nesaf a byddwch chi’n ymgymryd â’r dasg ar y cyd â phobl eraill yn eich carfan fel ‘set dysgu drwy weithredu’.
10. Faint o amser bydd rhaid imi ei neilltuo i CEIC?
Cynhelir CEIC dros gyfnod o 10 mis. Bob mis bydd angen ichi neilltuo diwrnod ar gyfer y gweithdy ac yna ddiwrnod arall ar gyfer y gweithgareddau gweithredu sy’n gysylltiedig â datblygu datrysiad y gwasanaeth newydd a’r gweithgareddau ymchwilio ynghlwm wrthyn nhw o fewn eich sefydliad.
11. Pa gyfleoedd datblygiad personol fydd gyda fi yn CEIC?
Gall y sawl sy’n cymryd rhan gyflwyno cwrs gwaith asesu ychwanegol i gael un modiwl Lefel Meistr (lefel 7). Byddai’r modiwl hwn yn caniatáu i’r cyfranogwyr ddechrau cwrs Meistr ym Mhrifysgol Abertawe neu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd hyn yn cael ei wneud ar ben y gwaith a wneir ar raglen CEIC. Gofynnwch inni am fwy o fanylion.
12. Pryd bydd y rhaglen yn cael ei chynnal?
Bydd y garfan gyntaf yn dechrau yn chwarter cyntaf 2021 a’n nod yw cynnal dwy garfan y flwyddyn tan ganol 2023.
13. A fydd COVID-19 yn effeithio ar sut bydd y rhaglen yn cael ei chyflenwi?
Bydd yn newid y ffordd mae’r rhaglen yn cael ei chyflenwi o fod yn rhaglen wyneb yn wyneb yn bennaf i ymgorffori rhannau ar-lein. Byddwn ni’n monitro cyngor Llywodraeth Cymru ac effaith dymhorol y feirws ac yn newid y rhaglen yn unol â hynny. Mae gyda ni lawer o gyrsiau rydym yn eu cyflenwi ar-lein ac wyneb yn wyneb ac rydyn ni’n hyderus o hyd y byddwn ni’n gallu cyflenwi rhaglen werthfawr ichi. Gan ein bod yn gwerthfawrogi cydweithredu wyneb yn wyneb yn fawr, a’i fod yn rhan bwysig o’n rhaglen, ein gobaith yw y byddwn ni yn y pen draw yn gallu dychwelyd at ein dull arferol.
14. Beth fydd ei angen arna i i baratoi cyn i’r rhaglen ddechrau?
Byddwn ni’n gofyn ichi fynychu digwyddiad ymlaen llaw ichi gael syniad o sut beth fyddai cymryd rhan yn y rhaglen. Yn ystod y digwyddiad hwn, byddwn yn eich helpu i ddechrau meddwl am eich sefydliad a ble y byddwch chi hwyrach eisiau ymgorffori egwyddorion yr economi gylchol.
15. Oes rhaid imi fynychu pob gweithdy?
Hoffen ni i bob aelod ymrwymo i fynychu pob un o’r gweithdai, a hynny er mwyn gofalu bod pob carfan yn gallu datblygu datrysiadau sy’n arwain at wasanaethau newydd.
16. Ydy aelodau gwahanol o’r tîm yn gallu mynychu bob yn ail?
Nac ydyn. Seilir llwyddiant cymunedau ymarfer ar gefnogaeth gan gymheiriaid a derbyn heriau gan gymheiriaid. Felly, dylai’r un bobl fynychu drwy gydol y rhaglen.
17. Beth sydd ynghlwm wrth y broses gwneud cais?
Rhan gyntaf y cofrestru yw llenwi’r ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb syml. Mae ar ein gwefan neu gallwch chi ddod o hyd iddi yma: https://swansea.onlinesurveys.ac.uk/ceic-eoi
Unwaith y byddwn ni wedi nodi diddordeb gan y sawl sy’n cymryd rhan, byddwn ni’n datblygu carfanau â themâu cyffredin ac yna fynd ati i roi dyddiadau (byddwch chi’n cael gwybod am ddyddiadau posibl ymhell cyn y bydd disgwyl ichi fynychu). Unwaith eich bod wedi cytuno ar y dyddiadau, byddwn ni’n gofyn i’r cyfranogwyr lenwi ffurflen gofrestru fanylach cyn iddyn nhw fynychu, cynnwys llythyr cyfranogiad wedi’i arwyddo a chytuno i ymrwymo i 2 ddiwrnod y mis i’r rhaglen. Nodwch na fydd gofyn ichi roi’r un wybodaeth ddwywaith. Bydd yr holl ddata yn cael ei ddefnyddio a’i storio yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gallwch chi weld polisi preifatrwydd prosiect CEIC yma.