Cefndir yr Astudiaeth Achos
Mae Abbey Glass, cwmni o dde Cymru, wedi darparu gwasanaeth gwydr a gwydro pwrpasol i gleientiaid masnachol a domestig ers dros 20 mlynedd. Mae Abbey Glass yn cyflenwi ac yn gosod gwydr crwn, balwstradau, drychau a gwydr wedi’i baentio ar y cefn yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi modiwlaidd ar gyfer cleientiaid masnachol mawr. Mae Abbey wedi tyfu tuag 20% y flwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf ac wedi meithrin partneriaethau â brandiau cenedlaethol, gan gynnwys grŵp Whitbread, Premier Inn, Brewers Fayre, Table Table, Costa Coffee, Beefeater a llawer mwy. Maent wedi datblygu arloesedd mewn partneriaeth â Premier Inn i wireddu eu haddewid ‘Noson Dda o Gwsg’ i’w cwsmeriaid ledled y DU. Mae Abbey yn awyddus i barhau i gynnig cynhyrchion arloesol i’w cleientiaid.
Mae gwybodaeth a sgiliau arloesi’r tîm arloesi yn Abbey wedi cael eu gwella drwy’r rhaglen DIPFSCC. Mae Angela, y Cyfarwyddwr Masnachol ac arweinydd y tîm arloesi, wedi cydlynu datblygiad y tîm arloesi sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â heriau a gyflwynir gan eu cwsmeriaid ac am ddatblygu cynhyrchion newydd i ddenu cwsmeriaid newydd. Cymerodd Angela ran yn y rhaglen i wella ei sgiliau a’i gwybodaeth am ddatblygu cynhyrchion/gwasanaethau newydd ac egwyddorion Economi Gylchol.
Effaith y rhaglen
Disgrifiodd Angela nifer o enghreifftiau lle mae’r offer a gyflwynwyd ar y rhaglen wedi cael eu defnyddio i wella eu prosesau mewnol i ddatblygu cynhyrchion newydd. Un enghraifft lle maent wedi manteisio ar wybodaeth o’r rhaglen yw prosiect ar gyfer cadwyn fawr o westyau a oedd wedi gofyn am gannoedd o sgriniau gwydr wedi’u paentio a darnau addurnol mewn cyfnod amser byr.
Gan ddefnyddio’r sgiliau mapio proses a ddatblygwyd ar y rhaglen, darganfu Abbey mai’r hyn a oedd yn arafu’r broses oedd yr amser angenrheidiol i sychu’r gwydr. Roedd amser sychu’r sgriniau gwydr a archebwyd yn achosi problemau gyda’u cwsmeriaid a phroblemau storio yn y ffatri. Roedd angen tua dau ddiwrnod i gynhyrchu pob darn. Drwy ymchwil i’r farchnad, dysgodd y tîm arloesi yn Abbey fod peiriant ar gael a allai gwtogi tua dwy awr oddi ar amser cynhyrchu pob darn. Roedd y peiriant dan sylw’n ddrud iawn felly cyfeiriodd y prosiect Abbey at arbenigwr arloesi yn Llywodraeth Cymru a gynorthwyodd Abbey i gyflwyno cais i gronfa arloesi SMART Cymru. Roedd cais Abbey yn llwyddiannus gyda chymorth yr arbenigwr arloesi.
Mae’r peiriant, a roddwyd ar waith yn ddiweddar yn ffatri Abbey ym Mhorth, yn llwyddiant ysgubol. Mae’r dulliau cynhyrchu newydd gan ddefnyddio’r peiriant newydd yn cynnig manteision economaidd ac amgylcheddol. Mae’r amser cynhyrchu wedi cael ei leihau o ddau ddiwrnod i ddwy awr, sydd wedi cynyddu gallu Abbey i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Yn ogystal, mae’r peiriant yn defnyddio llai o baent na’u dull traddodiadol, felly mae’n cynnig budd sylweddol i’r amgylchedd. Yn ail, mae Abbey yn arbed amser staff, gan fod angen llai o oriau llafur i gynhyrchu un darn. Maen nhw’n defnyddio llai o ynni gyda’r peiriant newydd hefyd oherwydd roedd eu proses paent draddodiadol yn defnyddio gwyntyllau echdynnu drud.
Ychwanegodd Angela: “Rydym wedi elwa’n fawr o raglen arloesi’r Brifysgol. Rydym yn hapus iawn gyda’r arbedion o ran amser a chost a’r effaith amgylcheddol gadarnhaol o ganlyniad i’r peiriant newydd roeddem yn gallu ei brynu gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Bydd yr effaith yn y dyfodol yn enfawr hefyd. Mae’r offer a’r modelau rwyf wedi’u dysgu o’r rhaglen yn cael eu defnyddio gan y tîm arloesi yn ein cyfarfodydd misol, sy’n argoeli’n dda am ein twf yn y dyfodol yma yn Abbey.”
Ffigur 1: Peiriant newydd yn Abbey Glass