Mae mentora'n ddull pwerus sy'n gallu helpu myfyrwyr i wella eu dealltwriaeth o fyd gwaith. Mae hefyd yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a'r hyder y bydd ei angen arnynt ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol ac mae'n darparu arweiniad hanfodol ar gyfer datblygiad personol.
Pam bod yn fentor?
Gall partneriaeth fentora fod yn brofiad sy'n eich cyfoethogi'n bersonol ac yn broffesiynol. Gall helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau gwaith gynnig boddhad personol sylweddol, cyfle i wella'ch sgiliau arwain a chyfathrebu eich hun a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
Am faint o amser mae'r cynllun yn para?
Mae'r cynllun yn para am chwe mis, o fis Hydref tan fis Mawrth, ac argymhellwn fod y myfyriwr a'r mentor yn cael dwy awr o gyswllt bob mis yn ystod cyfnod y cynllun. Lle bynnag y bo modd, dylai hyn gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Gellir estyn y bartneriaeth fentora y tu hwnt i'r cyfnod hwn, os dymunwch wneud hynny, ac os yw'r ddwy ochr yn cytuno.
Gair gan ein mentoriaid
"Mae gweld rhywun yn tyfu a dechrau magu hunanhyder yn brofiad hynod bwerus" - Emma Grant, Golygydd Newyddion gyda The Wave a Sain Abertawe, The Wireless Group.
"Y peth mwyaf gwobrwyol i mi yw gweld y myfyriwr rwy'n ei fentora'n dechrau gweld y golau drwy'r niwl - mae'n wych gweld sut maen nhw'n gweithio ar eu gwendidau a rhoi eich cyngor ar waith." - Michael Bello, Brand Insight Executive (Marchnata) - Admiral.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ein tîm cyflogadwyedd.