Myfyriwr Bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe yn ennill Gwobr Goffa Norah Isaac
Cerian Fflur Colbourne, sydd yn ei blwyddyn olaf yn astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a enillodd Wobr Goffa Norah Isaac y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni. Cerian, sy’n dod yn wreiddiol o Landysul, a gafodd y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.
Cyflwynwyd y wobr yn ystod Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor ar 19 Fawrth. Dyma’r eildro i fyfyriwr o Brifysgol Abertawe gipio Gwobr Goffa Norah Isaac, sy’n cydnabod cyfraniad arloesol Norah Isaac i fyd addysg Gymraeg. Mae’r Dystysgrif Sgiliau iaith yn cynnig cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ym mhob maes i gynnal ac arddangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Cerian : “Mae’n fraint fy mod i wedi ennill Gwobr Norah Isaac eleni. Roedd y Dystysgrif Sgiliau Iaith yn ddefnyddiol iawn wrth fy helpu i ymarfer a chynnal fy sgiliau Cymraeg a byddwn i’n argymell i unrhyw un fynd amdani.”