Gwobr Goffa Norah Isaac

Myfyriwr Bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe yn ennill Gwobr Goffa Norah Isaac

Cerian Fflur Colbourne, sydd yn ei blwyddyn olaf yn astudio ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a enillodd Wobr Goffa Norah Isaac y Coleg Cymraeg Cenedlaethol  eleni.  Cerian, sy’n dod yn wreiddiol o Landysul, a gafodd y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.

Cyflwynwyd y wobr yn ystod Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor ar 19 Fawrth.  Dyma’r eildro i fyfyriwr o Brifysgol Abertawe gipio Gwobr Goffa Norah Isaac, sy’n cydnabod cyfraniad arloesol Norah Isaac i fyd addysg Gymraeg.  Mae’r Dystysgrif Sgiliau iaith yn cynnig cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ym mhob maes i gynnal ac arddangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Dywedodd Cerian : “Mae’n fraint fy mod i wedi ennill Gwobr Norah Isaac eleni. Roedd y Dystysgrif Sgiliau Iaith yn ddefnyddiol iawn wrth fy helpu i ymarfer a chynnal fy sgiliau Cymraeg a byddwn i’n argymell i unrhyw un fynd amdani.”  

Cerian Colbourne