Eisteddfod Ryng-golegol 2024 yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe

Cannoedd o fyfyrwyr Cymraeg yn cymryd rhan yn Eisteddfod Ryng-golegol 2024

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn codi'r tarian fuddugol

Eisteddfod Ryng-golegol 2024 yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe

Dros benwythnos cyntaf mis Mawrth eleni, croesawodd Brifysgol Abertawe gannoedd o fyfyrwyr Cymraeg  i gymryd rhan yn Eisteddfod Ryng-golegol 2024. Y tro’r diwethaf i’r Eisteddfod Ryng-golegol ymweld ag Abertawe oedd yn 2019 ac roedd hi’n bleser cynnal y digwyddiad eto, sy’n un o uchafbwyntiau cymdeithasol a chystadleuol calendr myfyrwyr Prifysgolion Cymru.

Ers wyth mlynedd, Prifysgol Bangor sydd wedi bod yn fuddugoliaethus yn yr Eisteddfod Ryng-golegol felly roedd disgwyliadau uchel unwaith eto eleni ond, cipiwyd y darian gan Brifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf ers 2015!

Dechreuodd y cystadlu ar ddydd Gwener y 1af o Fawrth gyda’r Twrnamaint Chwaraeon a welodd Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor i gyd yn cymryd rhan gyda’u timoedd rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd amrywiol. Wedi prynhawn o gystadlu brwd, Prifysgol Abertawe oedd pencampwyr y Twrnamaint Chwaraeon.

Ar ddydd Sadwrn yr 2il o Fawrth, cynhaliwyd yr Eisteddfod Lwyfan yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae gyda'r digrifwr o Gwmtawe Noel James yn llywio'r digwyddiad wedi i'r Athro Gwenno Ffrancon estyn gair o groeso i'r holl fyfyrwyr. Yn llywio'r cystadlu yn y prynhawn oedd un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a chyn Swyddog Materion y Gymraeg Undeb y Myfyrwyr, Tom Kemp. O'r cychwyn cyntaf, roedd naws arbennig i'r diwrnod gyda'r hwyl a'r cystadlu brwd yn para tan y gystadleuaeth olaf un.

Roedd hi'n bleser croesawu'r gyflwynwraig adnabyddus, sydd hefyd yn gyn-fyfyrwraig,  Siân Thomas yn ôl fel Meistres y Ddefod a hithau gafodd y pleser o gyflwyno prif wobrau'r cystadlaethau gwaith cartref. Cafwyd cefnogaeth nifer o staff y Brifysgol wrth feirniadu'r cystadlaethau gwaith cartref, yn ogystal â chyfeillion agos i Academi Hywel Teifi gan gynnwys y cerddor adnabyddus Eric Jones yn beirniadu Tlws y Cerddor, a'r artist lleol, Rhys Padarn yn beirniadu'r Fedal Gelf. Dyma'r enillwyr:

  • Tlws y Cerddor - Celt John, Prifysgol Bangor
  • Medal y Dysgwyr - Ieuan Jacka, Prifysgol Abertawe
  • Y Fedal Gelf - Nia Williams, Prifysgol Aberystwyth
  • Y Fedal Wyddoniaeth - Fflur Edwards, Prifysgol Aberystwyth
  • Y Fedal Ddrama - Kirsty Lewis, Prifysgol Bangor

Beirniaid y Goron a'r Gadair oedd dau aelod o Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe, gyda Dr Miriam Jones yn dyfarnu mai enillydd y Goron oedd Rebecca Rees o Brifysgol Aberystwyth am ei darn o ryddiaith dan y teitl Y Goleudy, ac Yr Athro Brifardd Tudur Hallam yn dyfarnu mai Nanw Maelor, hefyd o Brifysgol Aberystwyth oedd yn deilwng o ennill cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol gyda'i cherdd 'Bae'.

Daeth y cystadlu i ben gyda'r Côr SATB, a Phrifysgol Bangor yn derbyn y wobr gyntaf am eu perfformiad nhw o'r Tangnefeddwyr gan Eric Jones. Roedd hi’n Eisteddfod agos dros ben gyda’r sgôr derfynol yn dangos cyn lleied â dau bwynt ar bymtheg rhwng y ddwy Brifysgol oedd ar y brig ond enillwyr haeddiannol Eisteddfod Ryng-golegol 2024 oedd Prifysgol Aberystwyth! Llongyfarchiadau mawr iddynt.

I gloi'r penwythnos arbennig hwn, cynhaliwyd gig yn ôl ar Gampws Singleton gyda rhai o enwau mwyaf poblogaidd y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Agorwyd y noson gan y band Mellt, yna neb llai na Gwilym ac yn dilyn hynny, un arall o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn dychwelyd i berfformio fel FRMAND. Am benwythnos i'w gofio!

 

Lluniau Rhyng-gol 2024

Untitled