Myfyrwraig Gymraeg yn ennill Gwobr Gyflogadwyedd

Gwobr am gyfraniad eithriadol i gyflogadwyedd

Mae myfyrwraig o Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu wedi ennill gwobr Cyfraniad Eithriadol Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) ar gyfer y flwyddyn 2018-19.

Cipiodd Lydia Hobbs, sydd newydd gwblhau ei hail flwyddyn ar y radd BA Cymraeg, y wobr myfyrwyr am greu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y Gymraeg.

Ers dechrau ar ei chwrs gradd, manteisiodd ar amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith, yn aml er mwyn annog eraill i ddysgu'r Gymraeg.  Mae'r rhain yn cynnwys bod yn llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; gweithio i S4C a Parallel.Cymru;  stiwardio yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol; cefnogi ysgolion lleol i hyrwyddo'r Gymraeg, cynorthwyo mewn gwersi Cymraeg a beirniadu mewn eisteddfodau ysgol a bod yn llysgennad i Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. 

Cafodd Lydia ei henwebu gan bennaeth y Gymraeg, Dr  Rhian Jones.  “ Mae Lydia wedi cymryd pob cyfle i ennill profiad o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg i ddatblygu ei sgiliau personol ac er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Brifysgol a thu hwnt,” meddai.” Mae Adran y Gymraeg a’r Coleg Celfyddydau yn hynod falch o’i llwyddiant a’r ffaith i’w hymdrechion gael eu cydnabod drwy ennill wobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe.”

 

Lydia Hobbs yn derbyn ei gwobr gan y Dirprwy Is-ganghellor Hilary Lappin-Scott

Lydia Hobbs yn derbyn ei gwobr gan y Dirprwy Is-ganghellor Hilary Lappin-Scott