Tafwyl 2021

Cyfres o ddigwyddiadau llenyddol rhithwir fel rhan o Wythnos Tafwyl, 9 -16 Mai

Llythrenau Tafwyl yn Castell Caerdydd

Academi Hywel Teifi yn noddi llwyfan Llais yng ngŵyl Tafwyl 2021

Wrth i ŵyl Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, mae Academi Hywel Teifi yn falch o gyhoeddi ei bod yn noddi llwyfan Llais yr ŵyl gan gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol rhithwir i bobl o bob oed fel rhan o Wythnos Tafwyl, 9 -16 Mai 2021.

Ymysg y digwyddiadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan Academi Hywel Teifi yn Tafwyl 2021 mae Yr Actor a'i Stori lle bydd yr actor Andrew Teilo yn sgwrsio a’i diwtor, y Prifardd Tudur Hallam, gan drafod ei awydd i awdura a'r modd y lluniodd gasgliad o straeon byrion ar gyfer ennill gradd MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Bydd Andrew Teilo’n trafod ei daith greadigol i fyd y stori fer, a’n cyflwyno i ambell gymeriad a stori newydd am 7.30pm ar nos Iau y 13eg o Fai.  

Yn y sesiwn Hanes Cymry, bydd Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe yn cyflwyno ei gyfrol newydd Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg, sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mehefin. Bydd Simon Brooks yn trafod hanes yr iaith Gymraeg fel iaith amlethnig o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw gan ystyried hanes y Roma Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad a hiliaeth yn erbyn pobl ddu. Bydd yn cael ei holi gan yr arbenigwr ar ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth, Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Cewch glywed y sgwrs ar lwyfan Llais am 3.15pm ar ddydd Sadwrn y 15fed o Fai.

Meddai Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: “Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn falch iawn o noddi llwyfan Llais Tafwyl unwaith eto eleni. Dymunwn ben-blwydd hapus iawn i’r ŵyl a hithau yn ei phymthegfed blwyddyn, ac edrychwn ymlaen at fwynhau’r arlwy o drafodaethau, sgyrsiau, cerddoriaeth a mwy. Mae Tafwyl yn ŵyl arbennig ar gyfer hybu’r iaith ac i ddathlu’n Cymreictod, ac mae’n fraint cael llwyfan yn yr ŵyl i rannu gwaith ac arbenigedd myfyrwyr, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe."

Noddir llwyfan Llais gan Academi Hywel Teifi, gweler sesiynau Llais 2021 yma.

Ewch i wefan Tafwyl 2021 i weld y rhaglen lawn.

Dathliad o gelfyddydau a diwylliant Cymreig

Logo Tafwyl ar gefndir porffor