Eisteddfod T lwyddiannus i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Dr Alwena Morgan o'r Ysgol Feddygaeth yn beirniadu cystadleuaeth y GwyddonLe

yn fyw ar S4C yn ystod yr Ŵyl

Dr Alwena Morgan ar y sgrin yn stiwdio Eisteddfod T ar S4C

Nifer o uchafbwyntiau i Brifysgol Abertawe yn ystod Eisteddfod T 2021

Prifysgol Abertawe oedd noddwr y GwyddonLe, pafiliwn gwyddoniaeth Eisteddfod yr Urdd, unwaith eto eleni wrth i’r genedl ddod ynghyd yn eu cartrefi i fwynhau arlwy fyrlymus EisteddfodT.

Er na fu modd croesawu plant a phobl ifanc i’r GwyddonLe ar faes eleni a chael rhannu rai o ddarganfyddiadau ac arbrofion gwyddonwyr Prifysgol Abertawe â nhw, fe wnaeth Academi Hywel Teifi gydlynu cynnwys digidol a rannwyd ar Ap Eisteddfod yr Urdd a gwefan yr Academi.

Mae’r GwyddonLe wedi rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc brofi gwefr astudio a gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, gwyddorau dynol ac iechyd, peirianneg a thechnoleg o dan arweiniad academyddion a myfyrwyr Prifysgol Abertawe ers blynyddoedd, ac eleni fe wnaethon ni rannu cyfres o fideos yn dangos arbrofion y gellir eu gwneud adref a phentwr o adnoddau papur i’w cwblhau a’u mwynhau.

Cynhaliwyd cystadleuaeth GwyddonLe eto eleni gyda’r Dr Alwena Morgan o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn beirniadu. Cafodd dipyn o her wrth dafoli 54 o geisiadau gyda phlant a phobl ifanc yn darparu fideos o arbrofion roeddent wedi’u cyflawni yn eu cartrefi. Ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod cyhoeddodd y canlyniad yn fyw ar S4C gan enwi Non Enlli Dafydd o Ysgol Gynradd Bro Gwydir yn enillydd gyda’i harbrawf i greu lamp lafa.

Ar ddiwrnod olaf EisteddfodT, cynhaliwyd cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan ar Facebook Live. Noddwyd y gystadleuaeth gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, canolfan Prifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol. Nod y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan feirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth. Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd yr Aelod Seneddol, Ben Lake, a’r arbenigwr newid hinsawdd, Yr Athro Siwan Davies, Pennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.

Bu chwech o gystadleuwyr yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y cwestiwn ‘Ai nawr yw’r amser i ddatgan argyfwng hinsawdd?’ Cafwyd perfformiadau gwych gan Lleucu a Rhiana o Ysgol Bro Morgannwg, Rhiannon ac Osian o Ysgol Bro Dinefwr, a Cadi a Gwenno o Ysgol Gyfun Gŵyr. Plesiwyd y beirniaid yn fawr gan safon y dadlau a gallu’r siaradwyr i ymchwilio’r pwnc yn drylwyr er mwyn seilio’u dadleuon ar ffeithiau. Meddai Ben Lake AS, “Braint oedd cael beirniadu cystadleuaeth o’r fath ansawdd, ac mi roedd hi’n dipyn o ben tost dewis enillydd. Pob clod i’r disgyblion a’u hysgolion, ond llongyfarchiadau i’r Academi am drefnu’r cystadleuaeth ac am roi cyfle euraidd iddynt yn y lle cyntaf.”

Llwyddodd Lleucu i ennill y wobr am y siaradwr gorau yn erbyn y pwnc, ac enillydd y wobr am y siaradwr gorau o blaid y pwnc, ac yna yr Her ei hun am siaradwr gorau y gystadleuaeth, oedd Gwenno Robinson o Ysgol Gyfun Gŵyr. Mae Lleucu yn ennill £250 i’w hysgol a Gwenno hithau’n ennill £250 i’w hysgol tra bydd hi ei hun yn manteisio ar brofiad gwaith wedi’i drefnu gan Academi Hywel Teifi. Llongyfarchiadau mawr i’r cystadleuwyr oll. Cyrhaeddodd y gystadleuaeth dros 9,000 o bobl ac mae modd i chi wylio’r gystadleuaeth yn ôl yma.

Bu’r Eisteddfod eleni yn un lwyddiannus iawn i un o’n myfyrwyr, sef Elin Fflur Jones o Bwll Trap, Sanclêr, sy’n astudio BSc Nyrsio (Oedolion), gan iddi ddod yn drydedd yng nghystadleuaeth Unawd Cerdd Dant dan 25 oed a thrwy wneud, gael lle yng Nghôr newydd yr Eisteddfod. Er mwyn nodi canmlwyddiant yr Urdd yn 2022 mae côr yn cael ei ffurfio er mwyn cynnig cyfleoedd i bobol ifanc ar hyd a lled Cymru i ddod at ei gilydd yn enw’r Urdd, a theithio i’r Unol Daleithiau. Bydd y daith gyntaf y flwyddyn nesaf i Alabama lle bydd Côr yr Urdd yn canu mewn cyngherddau ac yn dysgu mwy am y traddodiad canu gospel a hanes hawliau sifil Alabama. Llongyfarchiadau gwresog i Elin Fflur a dymuniadau gorau iddi ar y daith y flwyddyn nesaf.

Bu uchafbwynt arall i’r Brifysgol yn ystod yr wythnos wrth i ni ddathlu llwyddiant un arall o’n myfyrwyr, Sioned Medi Howells, a enillodd wobr Prif Lenor yr Eisteddfod. Mae Sioned, sy’n hanu o Bencader, yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn astudio BMid Bydwreigiaeth ac yn cwblhau cyfnod ar leoliad ar ward geni Ysbyty Singleton ar hyn o bryd. Ym marn y beirniad a’r awdur Caryl Lewis, a oedd wedi pwyso a mesur gwaith gan 70 o gystadleuwyr, mae gwaith Sioned yn “gadael y darllenydd yn ysu am fwy”. Llongyfarchiadau mawr iddi ar ei champ a dyma oedd clo arbennig ar Eisteddfod fendigedig i Brifysgol Abertawe a welodd dros 30,000 o bobl yn ymwneud â’n cynnwys digidol ar draws sawl llwyfan.