Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn croesawu Elisa Jenkins

Un o raddedigion y Brifysgol wedi ymuno fel Cymrawd Cyfiawnder yn Gyntaf

Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn croesawu Elisa Jenkins 

Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe, Elisa Jenkins, wedi ymuno â Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru fel Cymrawd Cyfiawnder yn Gyntaf wedi ei ariannu gan The Legal Education Foundation. 

Nod y Gymrodoriaeth  yw cefnogi darpar gyfreithwyr i hyfforddi ym maes cyfiawnder cymdeithasol ac mae Elisa ymhlith 22 o gymrodyr sydd wedi dechrau ar eu gwaith yn 2021. Elisa yw’r Cymrawd Cyfiawnder yn Gyntaf cyntaf i’w phenodi i weithio gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac meddai wrth ddechrau ar ei gwaith:

Llun proffil o elisa Jenkins

“Mae'r Gymrodoriaeth, sy'n ariannu Cyfreithiwr dan Hyfforddiant dros 2 flynedd, yn cefnogi Cymrodyr, fel fi, i ddilyn gyrfa hir a gwerth chweil sy’n defnyddio'r gyfraith fel offeryn ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol. Y bwriad yw y bydd Cymrodyr yn datblygu’n arweinwyr yn eu maes ac yn eiriolwyr dros fynediad at gyfiawnder a rheolaeth y gyfraith.” 

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn wasanaeth dwyieithog sydd ar gael ledled Cymru ac sydd wedi’i leoli yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y Ganolfan yw darparu gwybodaeth am a mynediad at gyngor cyfreithiol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Elisa yn ymuno â’r tîm fel Cyfreithiwr Hawliau Plant dan hyfforddiant er mwyn cynorthwyo'r Ganolfan i ddatblygu gwasanaeth o gwmpas y fframwaith cyfreithiol sydd yn cefnogi hawliau plant yng Nghymru. 

Mae gan Elisa fewnwelediad arbennig i anghenion plant yn sgil blynyddoedd o wirfoddoli mewn rolau gyda phlant, yn arbennig plant ag anghenion arbennig, ond hefyd gan ei bod hi ei hun, fel plentyn mabwysiedig, wedi bod yn rhan o’r system ofal tra’n blentyn.

Ar ôl astudio am LLB ym Mhrifysgol Reading daeth Elisa i Brifysgol Abertawe i astudio LLM Ymarfer Cyfreithiol ac Uwch Ddrafftio trwy gyfrwng y Gymraeg a gradd Meistr mewn Cyfraith Economaidd Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Yn 2019, cafodd ei henwi gan Future Finance yn un o 15 myfyriwr ysbrydoledig y DU o blith dros 750 o fyfyrwyr.

Tra’n astudio ei gradd LLM drwy’r Gymraeg yn 2020, derbyniodd Elisa Fwrsariaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Meddai: 

“Roedd astudio fy nghwrs ôl-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn gysur i mi. Teimlais fy mod yn gallu cyrraedd fy llawn botensial oherwydd fy mod yn fwy cyfforddus yn ysgrifennu yn y Gymraeg. Mae hefyd wedi cryfhau fy rhagolygon gyrfaol. Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n chwilio am unigolion sy’n gallu cyfathrebu’n Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae medru’r Gymraeg hefyd yn fuddiol i gyfathrebu gyda chwsmeriaid a/neu gleientiaid sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg. Mae cael unigolyn dwyieithog yn ddeniadol i gwmni.” 

Dywedodd yr Athro Elwen Evans CB, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, “Rwy’n llongyfarch Elisa yn fawr iawn ar ei champ yn sicrhau’r Gymrodoriaeth hon ac yn dymuno’n dda iddi wrth y gwaith pwysig y bydd yn ei gyflawni. Mae Prifysgol Abertawe yn arwain y ffordd trwy waith Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac mae’n dda gweld bod ein graddedigion cyfrwng Cymraeg yn cyfrannu at y datblygiadau hynny.”