Atgofion Abertawe - Rhys Jones

Bargyfreithiwr a Phennaeth Siambrau

Dywedwch ychydig wrthym am astudio yn Abertawe a beth yw eich swydd erbyn hyn.

Dwi ‘di bod yn fargyfreithiwr yn Siambrau Angel yn Abertawe ers 1999, ac yn Bennaeth Siambrau ers 2021.

Astudiais i’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe o 1994 i 1997.  Ges i fy nerbyn i astudio geneteg yn wreiddiol, ond, yn ystod yr haf cyn dechrau’r cwrs, penderfynais i ro’n i wedi cael digon o wyddoniaeth yn ystod lefel A, a newidiais fy nghwrs gradd.  Ar y pryd, roedd newid cyrsiau i weld yn hollol hawdd.  Ffoniais i adran y gyfraith, siarad gyda’r pennaeth, ac fe gytunodd e yn y fan a’r lle.  Dw i ddim hyd yn oed yn cofio cael llythyr ffurfiol i gadarnhau!

Rhys Jones

Bargyfreithiwr a Phennaeth Siambrau

Rhys Jones heddiw

Pam Prifysgol Abertawe?

Roedd y rheswm penderfynais i astudio yn Abertawe yn y lle cynta’ yr un mor ddi-drefn!  O’r hanner dwsin o brifysgolion o’n i’n ystyried, es i i ddiwrnod agored yn Abertawe ym mis Gorffennaf, ac roedd y tywydd yn fendigedig.  Sefais i ar y lawnt o flaen Ty Fulton yn meddwl pam yn y byd bydden i ddim eisiau dod fan hyn i astudio?!  Fel mae’n digwydd, roedd yr hydref ddechreuais i’r cwrs yn un o’r oeraf a’r gwlypaf dw i erioed yn cofio, ond roedd hi’n rhy hwyr erbyn hynny!   Lwc i mi oedd y diwrnod braf hwnnw, achos fe dalodd fy newis ar ei ganfed.

Astudio'r Gyfraith

1994-1997

Rhys Jones ar ddiwrnod graddio ym 1997

Soniwch ychydig am eich amser yn y Brifysgol a’ch hoff atgofion.

Mae rhaid dweud, joies i fy ngradd yn Abertawe yn enfawr.  Rodd yr adran yn un newydd (ni oedd yr ail flwyddyn i astudio’r cwrs) ac o ganlyniad roedd pawb yn adnabod pawb.  Yn wir, roedd yr awyrgylch agos atoch hynny yn nodwedd o fyfyrwyr Abertawe ac o bobl y ddinas yn gyffredinol.  Mae’r criw o ffrindiau wnes i wrth astudio wedi para hyd heddiw a ni’n dal i gwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn.  Dwles i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac o’n i’n aelod brwdfrydig o’r GymGym (Y Gymdeithas Gymraeg).  Ond yn ogystal â joio bywyd prifysgol, roeddwn i’n dwli ar y ddinas a phobl Abertawe.  Fe dreuliais i amser yn gwylio’r Whites yn St Helen’s a’r Swans yn y Vetch a bron pob nos Sadwrn yn trio (a methu) cyflawni’r Mumbles mile!

Beth fyddech chi’n dweud wrth rywun sy’n ystyried dod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Bydden i’n annog unrhyw un i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.  Oherwydd y profiad gwych ges i, o’n i’n benderfynol o aros ‘ma.  Er fy mod i nawr yn byw yn Sir Gâr gyda fy nheulu (yn cynnwys fy ngwraig ‘nes i gwrdd yn y Brifysgol) dw i’n gweithio yn y ddinas ac yn dal i garu’r lle.  Fel sefydliad, mae Siambrau Angel yn ceisio creu cysylltiadau gydag ysgolion a cholegau lleol, yn cynnwys Prifysgol Abertawe, achos rydyn ni wedi dysgu drwy brofiad y pwysigrwydd o recriwtio’n lleol.