Tiwtor Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn gwasanaethu ei chymuned

Gwirfoddolwr ymroddedig

Yn ogystal â gofalu ar ei ôl dysgwyr ei dosbarthiadau Cymraeg yn sgil yr argyfwng Coronafeirws trwy gynnal gwersi arlein, mae un o diwtoriaid Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, Academi Hywel Teifi hefyd wedi bod yn gofalu ar ôl aelodau bregus yn ei chymuned.

Mae Janet Horbury, sy’n byw yn Yr Allt-wen, Cwm Tawe yn un o wirfoddolwyr mwyaf ymroddedig Grŵp Gwirfoddolwyr Cymunedol Yr Allt-wen ac ers dechrau cyfnod yr argyfwng, mae hi wedi bod yn cynorthwyo cymdogion sy’n methu â gadael y tŷ i wneud tasgau bob dydd yn sgil afiechydon neu am eu bod yn oedrannus. Mae’r tasgau sy’n cael eu cyflawni gan y gwirfoddolwyr yn amrywio o siopa bwyd, mynd â ffurflenni i’r ganolfan iechyd, casglu moddion o’r fferyllfa a cherdded cŵn.

Cafodd taflenni a oedd yn rhoi gwybod i drigolion am yr help oedd ar gael iddynt eu dosbarthu gan y gwirfoddolwyr cyn y gorchymyn i aros adre, ac mae galw mawr wedi bod am gymorth y grŵp. Cydlynydd y Grŵp Gwirfoddolwyr yw Sioned Williams, sydd hefyd yn gweithio i Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe ac sy’n gynghorydd cymuned lleol.

Mae Janet wedi bod yn diwtor Cymraeg yn yr ardal ers 4 mlynedd gan ddysgu dysgwyr Mynediad a Sylfaen yn Nghanolfan Gymraeg Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe. Cyn hynny bu’n dysgu dosbarthiadau Cymraeg yng Ngholeg Castell-nedd am bymtheng mlynedd ochr yn ochr â’i gwaith yn dysgu sgiliau sylfaenol i fyfyrwyr.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Janet, fel gweddill tiwtoriaid Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe wedi gweld newid sylweddol yn eu patrwm a’u dull gwaith. Mae’r dysgu bellach yn digwydd dros lwyfan Zoom a’r tiwtoriaid yn gweithio’n galed i gadw mewn cyswllt â’u dysgwyr trwy sgyrsiau ffôn, grwpiau What’s App, negeseuon testun ac ebost. Mae wedi bod yn gyfnod o feithrin sgiliau addysgu newydd i’r tiwtoriaid a bugeilio dysgwyr – gyda nifer fawr ohonynt dros 60 oed – i gofleidio technoleg er mwyn gallu parhau gyda’u gwersi. Ond, diolch i ddyfalbarhad a mentergarwch y tiwtoriaid, mae’n ymddangos bod y dysgwyr yn mwynhau eu gwersi rhithiol yn fawr ac yn gwerthfawrogi’r cyswllt wythnosol â’u cyd-ddysgwyr.

Tra’n cefnogi ei dysgwyr yn y modd hwn, mae Janet hefyd yn amlwg wedi ymestyn ei gallu i ofalu am eraill trwy wirfoddoli yn Yr Allt-wen. Meddai:

“Mae’n bleser medru helpu cymdogion sydd mewn sefyllfa fregus iawn yn sgil yr argyfwng ac heb deulu yn byw’n agos i’w helpu gyda thasgau pwysig fel siopa bwyd neu gasglu presgripsiwn. Fel tiwtor dwi’n gyfarwydd ag estyn cefnogaeth i’m dysgwyr ac mae’r awydd i helpu yn dod yn naturiol.” 

Dywedodd Sioned Wiliams, Cydlynydd Grŵp Gwirfoddolwyr Yr Allt-wen: “Mae Janet wastad gyda’r cyntaf i ateb y galw i helpu pan fyddaf yn derbyn cais am gymorth. Mae nifer o’r trigolion lleol wedi cysylltu â fi er mwyn mynegi eu gwerthfawrogiad o’i charedigrwydd a’i chymwynas – ac mae’n braf teimlo ein bod ni’n dwy, fel aelodau o staff Academi Hywel Teifi sy’n ymwneud â’r gymuned wrth ein gwaith bob dydd, yn parhau i’w gwasanaethu mewn modd wahanol yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe:

“Mae’r Academi yn falch iawn o’r ffordd y mae ein staff yn ceisio cynorthwyo aelodau bregus o gymdeithas yn ystod yr argyfwng. Mae cynifer o’n staff yn cefnogi amrywiol gynlluniau yn eu cymunedau ac mae’n brawf dwi’n meddwl o ethos gymunedol yr Academi a’n hawydd i ymestyn allan y tu hwnt i gampws y Brifysgol er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion ein hardal.” 

 

Llun o Janet Horbury