Darlith Goffa Henry Lewis 2017: ‘T. H. Parry-Williams a’r Rhyfel Mawr’

Dr Bleddyn Owen Huws o Brifysgol Aberystwyth fydd yn traddodi Darlith Goffa Henry Lewis Prifysgol Abertawe ar nos Wener 7 Gorffennaf yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe.

Teitl y ddarlith yw ‘T. H. Parry-Williams a’r Rhyfel Mawr’, a bydd yn trafod safiad y bardd a’r ysgolhaig o Ryd Ddu fel gwrthwynebydd cydwybodol i’r Rhyfel Mawr, a’r erledigaeth a fu arno pan gynigiodd am Gadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1919.

Mae Dr Bleddyn Owen Huws yn Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyhoeddodd nifer o astudiaethau ym maes barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, ac y mae hefyd yn ymddiddori yng ngwaith beirdd a llenorion gwerinol Eryri yn yr ugeinfed ganrif. Mae’n gyd-olygydd Dwned, sef cylchgrawn hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol.

Mae’r ddarlith hon yn coffáu Henry Lewis, Athro cyntaf y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Gwnaeth gyfraniad mawr i’w ddisgyblaeth yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif fel golygydd testunau canoloesol ac fel ieithydd. Trefnir y ddarlith goffa hon gan Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai’r Athro Christine James, pennaeth Adran y Gymraeg: “Rydym yn falch iawn o gael croesawu Dr Bleddyn Owen Huws i Dŷ’r Gwrhyd i draddodi Darlith Goffa Henry Lewis eleni. Mae ei bwnc yn arbennig o amserol gan ein bod nid yn unig yn cofio canmlwyddiant y Rhyfel Mawr ar hyn o bryd wrth gwrs, ond hefyd am fod papurau personol Henry Lewis – gan gynnwys y dyddiaduron a gadwodd yn ystod y rhyfel hwnnw – newydd gyrraedd Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe."