Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2023

Llun o Maisie Edwards

Maisie Edwards yw enillydd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2023

Eleni, caiff Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi Edwards ei gwobrwyo am yr ail waith, ac mae’n bleser gan Academi Hywel Teifi gyhoeddi mai’r ymgeisydd llwyddiannus yw Maisie Edwards, sy’n hanu o Gasnewydd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Mae Maisie eisoes wedi graddio â dosbarth cyntaf mewn BSc Iechyd Poblogaethau a’r Gwyddorau Meddygol ac ar fin cwblhau cwrs meistr trwy ymchwil mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd. Mae wedi manteisio ar bob cyfle i astudio trwy’r Gymraeg oedd ar gael iddi fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe ac i brofi cyfleoedd allgyrsiol a bywyd cymdeithasol llawn yn yr iaith. Roedd y profiadau hyn yn cynnwys bod yn aelod o Aelwyd yr Elyrch, y GymGym, yn Llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chael profiad gwaith gyda’r Academi. 

Ar hyn o bryd mae Maisie yn gweithio fel ymchwilydd Cymraeg gyda phrosiect Sunproofed sy’n hyrwyddo pwysigrwydd diogelu plant rhag yr haul.

Bydd ymchwil Maisie yn canolbwyntio ar y defnydd o’r Gymraeg o fewn darpariaeth gofal iechyd sylfaenol a chartrefi gofal ac effaith hyn ar y claf. Mae Maisie eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith ar y pwnc fel rhan o’i chwrs meistr a bydd yr Ysgoloriaeth yn ei galluogi i barhau â’r ymchwil pwysig hwn mewn tipyn mwy o ddyfnder.

Meddai Maisie, “Rydw i'n hynod ddiolchgar. Mae’n fraint ac yn anrhydedd aruthrol i dderbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi. Mae fy ymchwil i’n archwilio pwysigrwydd y Gymraeg wrth feithrin cyfathrebiad effeithiol rhwng darparwr gofal a chlaf a gwell canlyniadau iechyd o fewn darpariaeth gofal iechyd sylfaenol. Rwyf wedi fy ysbrydoli gan gyfraniad ac ymrwymiad di-baid Yr Athro Hywel Teifi Edwards at iaith, dysg a diwylliant Cymru a theimlaf yn angerddol i barhau i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn fy maes ymchwil. Mae Prifysgol Abertawe a’r gymuned Gymraeg wedi chwarae rôl fawr yn fy mywyd academaidd ac edrychaf ymlaen at eu cynrychioli gyda chefnogaeth a chymorth yr Ysgoloriaeth.” 

Mae Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yn derbyn cyfraniad ariannol gan gwmni cyfryngau Tinopolis Cymru ynghyd â chefnogwyr a chyfeillion Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, a’i nod yw cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes sy’n ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi at ddysg a diwylliant Cymru.

Beirniaid yr ysgoloriaeth eleni oedd y cyflwynydd Angharad Mair, Syr Roderick Evans, Cadeirydd Academi Hywel Teifi a’r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

Meddai Angharad Mair ar ran Tinopolis, “Mae’n fraint i ni fel cwmni i fod yn gysylltiedig â gwobrwyo Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi. Roedd yr Athro Hywel Teifi yn ffrind mawr i’n rhaglenni dyddiol ni i S4C, Heno a Prynhawn Da ac yn gyfrannydd cyson a chefnogwr brwd. Mae’n wych gweld bod y wobr eleni yn cael ei chyflwyno am waith ymchwil sydd mor bwysig i gynifer o bobl yng Nghymru wrth edrych ar y Gymraeg law yn llaw a gofal iechyd. Pob dymuniad da i Maisie gyda’r gwaith.”

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, “Mae Academi Hywel Teifi yn falch tu hwnt o ddyfarnu Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2023 i Maisie Edwards sydd am gyflawni ymchwil all gael dylanwad pellgyrhaeddol ar ein defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau iechyd a gofal. Bydd ei hymchwil yn ceisio amlygu effaith gadarnhaol defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gofal, a hynny yng nghyd-destun gofal iechyd sylfaenol sef trwy wasanaeth meddygon teulu – prif gyswllt y boblogaeth â gwasanaethau gofal iechyd mewn gwirionedd. Bydd hefyd yn asesu a yw defnydd, neu ddiffyg defnydd, o’r Gymraeg yn cael effaith ar iechyd corfforol, meddyliol a’r gallu i gofio gwybodaeth preswylwyr mewn cartrefi gofal a chleifion sydd â chyflyrau cronig. Dymunwn yn dda iddi ac rwy’n siŵr y cawn astudiaeth werthfawr ganddi ymhen tair blynedd.”