Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 Urdd Gobaith Cymru

Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg Abertawe'n paratoi neges eleni

Mae rhai o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn cael cyfle i helpu Urdd Gobaith Cymru i baratoi a chyhoeddi Neges Ewyllys Da 2021. Dyma’r tro cyntaf i’r Urdd gydweithio â phrifysgol i baratoi’r neges hon sydd yn gant oed y flwyddyn nesaf.

Thema y neges eleni yw “Cydraddoldeb i Ferched”, ac mae ugain o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi dechrau ar y gwaith o baratoi’r neges a’i chyhoeddi i’r byd. Y bwriad yw cyhoeddi’r neges ar 18 Mai 2021, Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da.

Yn ogystal â gweithio gyda’r Urdd i hyrwyddo’r neges trwy gyfryngau cymdeithasol a chyda ysgolion, bydd cyfle i rai o’r myfyriwr i deithio i Efrog Newydd ar gyfer digwyddiad yn adeilad y Cenhedloedd Unedig yn Hydref 2021, yn ddibynnol ar reoliadau COVID-19.

Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi:

"Mae'n hyfryd deall fod rhai o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn paratoi neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru 2021. Dyma'r tro cyntaf i'r Urdd weithio gyda phrifysgol ar y neges hon ac mae'n fraint o'r mwyaf i’r Urdd ddewis gwneud hynny gyda myfyrwyr Abertawe. Does dim dwywaith gen i y bydd y myfyrwyr yn cael budd sylweddol o ddod ynghyd i drafod y thema eleni a dysgu mwy am brofiadau a safbwyntiau ei gilydd ac eraill ar draws y byd. Mae ein to ifanc wedi profi cyfnod heriol tu hwnt yn ddiweddar, a dyma gyfle iddyn nhw feithrin hyder a chodi'u golygon i ysbrydoli eraill. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed neges eleni."

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

“Mae’r Urdd wedi bod yn anfon neges flynyddol o heddwch ac ewyllys da i’r byd bob blwyddyn ers 1922, gan annog ac ysbrydoli gweithgaredd dyngarol a rhyngwladol. Rydym ni fel mudiad yn edrych ymlaen at gael cydweithio gyda myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar thema a chynnwys y neges eleni, gan roi platfform i’n pobl ifanc estyn allan drwy gyfeillgarwch ac undod ledled y byd.”

 

Thema eleni yw “Cydraddoldeb i Ferched”,

Baner Cymru