Academi Hywel Teifi yn noddi Lolfa Lên y Tafwyl

Rhaglen lawn o ddigwyddiadau

Mae Academi Hywel Teifi yn falch o gyhoeddi ei bod yn noddi ac yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau unwaith eto eleni yn Lolfa Lên y Tafwyl dros benwythnos 22 Mehefin 2019.

Mae rhaglen Y Lolfa Lên eleni yn cynnwys trafodaethau a darlleniadau gan rai o ysgolheigion a llenorion Prifysgol Abertawe ac hefyd gan Gylch Darllen Cwm Tawe, sy’n cwrdd yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe a sefydlwyd gan yr Academi. 

Ymysg y digwyddiadau a fydd yn cael cyflwyno gan Academi Hywel Teifi eleni mae Awen Abertawe a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr yr ŵyl glywed y Prifardd Tudur Hallam, Grug Muse, enillydd Cadair Eisteddfod Ryng-golegol 2019, a beirdd ifanc eraill Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe yn cyflwyno eu cerddi. Bydd rhagflas hefyd o gyfrol newydd Tudur Hallam o gerddi sy’n cael ei chyhoeddi gan Barddas.

Bydd yr Athro Gwynedd Parry o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe yn cyflwyno ei gyfrol newydd Y Gyfraith yn ein Llên sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r Oesoedd Canol Cynnar hyd at ein dyddiau ni.  Trafod ei gyfrol a’i gyfres deledu newydd  Cymru – Trefedigaeth Lloegr? fydd Yr Athro Martin Johnes o Adran Hanes Prifysgol Abertawe a hynny gyda’r Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, Prifysgol Abertawe. 

Yn y sesiwn Cymeriadau Cwm Tawe bydd cyfle i glywed detholiad o weithiau llenorion y cwm ynghyd â darluniau gan yr arlunydd adnabyddus o Bontardawe Mike Jones, sy’n ymddangos mewn cyfrol wedi’i golygu gan aelodau Cylch Darllen Cwm Tawe.

Meddai Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: “Mae Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn falch iawn o noddi Pabell Lenyddiaeth Tafwyl, a hynny am y bedwaredd flwyddyn o’r bron , ac o barhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r ŵyl arbennig hon er mwyn hybu’r iaith ac i rannu gwaith ac arbenigedd  llenorion ac ysgolheigion disglair Prifysgol Abertawe.”

Gweler y rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer Tafwyl 2019

 

Logo Tafwyl