Prifysgol Abertawe i noddi’r Babell Lên am y tair blynedd nesaf

Y Babell Lên yw un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd yr Ŵyl

Ar drothwy blwyddyn ei chanmlwyddiant, mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn noddi’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Bydd y Brifysgol yn noddi un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd yr Ŵyl am y tair blynedd nesaf gan gwmpasu cyfnod dathliadau ei chanmlwyddiant.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Uwch-Ddirprwy Is-ganghellor y Brifysgol: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn o fedru dod i drefniant gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i noddi’r Babell Lên. Wrth i’n Prifysgol fwrw golwg nôl dros y ganrif ddiwethaf o gyfrannu at gynnal a chyfoethogi’r diwylliant Cymraeg, does yna’r un ffordd well o ddathlu hynny na thrwy gefnogi a chydweithio ag un o’n prif sefydliadau cenedlaethol.”

Meddai’r Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Fe wyddom ni oll mai ail gartref yr Athro Hywel Teifi Edwards oedd y Babell Lên; roedd ei ddarlithoedd yno’n  chwedlonol! Edrychwn ymlaen, felly, at gyfrannu at y rhaglen fywiog flynyddol o ddarlithoedd, paneli trafod a sgyrsiau a gaiff eu cynnal yn y babell. Bydd yna gyfle arbennig i ni hefyd dynnu ar waith ac arbenigedd llenorion ac ysgolheigion disglair Prifysgol Abertawe a nodi, yn 2020, ddeng mlynedd ers sefydlu’r Academi.”

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Phrifysgol Abertawe dros y tair blynedd nesaf, er mwyn datblygu ein harlwy llenyddol ymhellach ar Faes yr Eisteddfod. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am noddi’r Babell Lên, ac rwy’n sicr y bydd hon yn bartneriaeth arbennig i’r ddau sefydliad.

“Mae ein gweithgareddau llenyddol yn rhan greiddiol a phwysig o’r Eisteddfod, a braf yw gwybod fod gennym ni gefnogaeth sefydliad fel Prifysgol Abertawe i gydweithio gyda ni am y cyfnod nesaf hwn, gan gychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Conwy.”

Bydd rhaglen y Babell Lên ar gyfer Eisteddfod Sir Conwy’n cael ei rhyddhau'r wythnos hon. Ymhlith y sesiynau fydd dan ofal Academi Hywel Teifi bydd Darlith Goffa Hywel Teifi, wedi’i thraddodi gan yr Athro Gwynedd Parry, sgwrs ar waith y nofelwraig Elena Puw Morgan, darlith ar fywyd a gwaith Emyr Humphreys, a sgwrs ar ganu poblogaidd ardal Cwm Tawe.

Cynhelir yr Eisteddfod yn Llanrwst, Sir Conwy o 3-10 Awst 2019. Am fanylion pellach am bresenoldeb y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cysylltwch ag Academi Hywel Teifi.

Logo y Babell Lên