Cryfhau cysylltiadau â Phatagonia

Mae Darlithydd yn yr Adran Gymraeg, Dr Hannah Sams, ar ymweliad â Phatagonia dros y Pasg ac yn gobeithio dysgu mwy am lenorion y Wladfa.

Bydd Hannah, sy’n arbenigwraig ym maes llenyddiaeth gyfoes, yn treulio cyfnod ym mhrifddinas yr Ariannin, Buenos Aires, cyn teithio i Batagonia. Bydd yn aros ym Mhlas y Coed sef llety Ana Chiabrando Rees, sydd hefyd sy’n rhedeg un o dai te Cymreig yr ardal ac yna’n aros gyda Rini Griffiths draw yn yr Andes. Yn ystod yr ymweliad, mae’n gobeithio cwrdd ag Eluned Evans, Cymraes a enillodd radd MA yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, cyn ymfudo i’r Wladfa.

Meddai Hannah i ddarlithydd Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Geraldine Lublin, sy’n dod o Buenos Aires yn wreiddiol, gynnau ei diddordeb yn y Wladfa tra iddi astudio modiwlau Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg fel myfyrwraig israddedig. Mae aelodau eraill o Adran y Gymraeg hefyd â chysylltiad agos gyda’r Wladfa – bu Dr Rhian Jones, sy’n uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg yn athrawes Gymraeg ym Mhatagonia a bu’r Athro Christine James yn rhan o’r dathliadau swyddogol yno yn 2015 i nodi canrif a hanner ers sefydlu’r Wladfa.

Dywedodd Hannah: “Mae’r daith hon i’r Wladfa yn gyfle i wireddu breuddwyd a fu gen i ers rhai blynyddoedd bellach. Rwy’n edrych ymlaen at ddeall mwy am hunaniaeth a llenyddiaeth y Wladfa yn benodol. Mae nifer o staff a myfyrwyr yr Adran Gymraeg eisoes wedi profi gwefr y cysylltiad unigryw sydd rhwng Cymru a Phatagonia a byddaf yn ceisio dyfnhau’r cysylltiadau sy’n bodoli eisoes er mwyn creu perthynas a fydd yn ysgogi ac yn cefnogi ymchwil ac addysgu Adran y Gymraeg.” 

Hannah Sams yn graddio gyda gradd ymchwil