Gwobr Merêd 2019

Myfyriwr Ieithoedd Modern yw pumed enillydd Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg

Mewn digwyddiad arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ym mis Awst derbyniodd un o fyfyrwyr y Gyfadran Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Rebecca Martin,  wobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni a hynny am ei chyfraniad allgyrsiol i fywyd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt.

Daw Rebecca o Arberth, Sir Benfro a derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol y Preseli, Crymych. Rebecca newydd raddio gyda BA gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg a Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg a dyfarnwyd Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg iddi. Mae bellach yn astudio am MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn yr Adran Ieithoedd Modern.

Cafodd Gwobr Merêd ei sefydlu yn 2015 er cof am Dr Meredydd Evans ac mae’n cydnabod cyfraniad myfyriwr sydd yn aelod cyfredol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg.

Rebecca oedd Swyddog Materion y Gymraeg, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ynghyd â Llywydd Fforwm Myfyrwyr Cangen Abertawe a bu’n hynod o weithgar yn y rôl.  Bu hefyd yn gynrychiolydd myfyrwyr ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg gan gyfrannu at drafodaethau ar ran ei chyd-fyfyrwyr.

Meddai Lois Griffiths, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a enwebodd Rebecca: “Gydol ei chyfnod ym Mhrifysgol Abertawe, mae Rebecca wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r bywyd Cymraeg. Mae’n barod iawn ei chymwynas wrth gefnogi mentrau i hybu'r Gymraeg, boed ar ran y ddarpariaeth addysgol o fewn y brifysgol neu drwy gyfrannu at waith allymestyn mewn ysgolion.

Gweithiodd yn ddygn tu hwnt ar ran ei chyd-fyfyrwyr gan gyflawni y tu hwnt i’r gofyn. Llwyddodd i wireddu’r nod o droi’r swydd yn un lawn amser â chyflog trwy lywio’r broses o gynnal refferendwm ar y cwestiwn i’r corff myfyrwyr cyfan. Yn sgil ei hymdrechion diflino fe ddechreuodd Swyddog Materion y Gymraeg llawn amser, cyflogedig ar y gwaith ym Mehefin 2019. Mae Rebecca’n gadael gwaddol aruthrol o’i hôl i’r Undeb Myfyrwyr, i’r Brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg sydd yn dod trwy ddrysau Prifysgol Abertawe bob blwyddyn.”

Ychwanegodd Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Rhyfeddaf, yn flynyddol, at safon yr enwebiadau a ddaw i law ar gyfer Gwobr Merêd. Ar draws ein gwlad, mae myfyrwyr yn cerdded yr ail a’r drydedd filltir, i feithrin a hybu’r bywyd Cymraeg yn eu prifysgolion. Rydym fel Coleg Cymraeg, a chenedl, yn ddyledus iddynt. Rwy’n llongyfarch Rebecca’n fawr, am ei gwaith ym Mhrifysgol Abertawe, yn gyffredinol ymysg myfyrwyr Cymraeg, ac i’r Coleg Cymraeg, yn arbennig felly, ei chyfraniad i Fwrdd Academaidd y Coleg.”    

Meddai Rebecca: “Mae'n fraint i dderbyn Gwobr Goffa Merêd y flwyddyn yma. Mae'r flwyddyn wedi bod yn un gwerth chweil, a dwi'n hynod o falch fod myfyrwyr Cymraeg wedi elwa oddi wrth fy ngweithredoedd. Mae'r gymuned Cymraeg o fewn y brifysgol yn Abertawe wedi bod yn elfen allweddol o'm hamser fel myfyrwraig, felly mae'n bleser i allu rhoi rhywbeth nôl i'r gymuned yma. Diolch i bawb am fy newis ar gyfer y wobr hon!”

 

 

 

Rebecca Martin gyda'i Gwobr