Dathlu degawd o Gangen Abertawe y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dathlu’r datblygiadau a welwyd mewn addysgu trwy'r Gymraeg yn Abertawe ers 2011

Myfyrwyr Cymraeg tu allan i Dy Fulton ar Gampws Singleton

Cynhaliwyd dathliad ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Mercher 8 Mawrth 2023 i nodi degawd ers sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac, yn sgîl hynny, Gangen Abertawe y Coleg Cymraeg.

Ers sefydlu Academi Hywel Teifi yn 2010 a Changen Abertawe y Coleg Cymraeg yn 2011 gwelwyd twf o 135% yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio 40 credyd y flwyddyn trwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a chynnydd yn nifer y pynciau a gaiff eu haddysgu trwy’r Gymraeg o bump i 22.

Yng nghwmni Syr Roderick Evans, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, Dr Aled Eirug, Cadeirydd y Coleg Cymraeg, a Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd y Coleg Cymraeg, cafwyd cyfle hefyd i ddathlu’r datblygiadau a welwyd mewn addysgu trwy'r Gymraeg yn Abertawe a hefyd yn niferoedd y myfyrwyr sy’n astudio rhan o'u cynlluniau gradd yn Gymraeg neu sydd wedi gwneud hynny.

Fel rhan o’r digwyddiad cyhoeddwyd newyddlen arbennig er mwyn rhoi ar gof a chadw'r cerrig milltir hyn yn hanes y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ogystal, cyflwynwyd gwobrau i gydnabod llwyddiannau staff a myfyrwyr sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd trwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe dros y degawd diwethaf.

Derbyniwyd enwebiadau ar gyfer wyth gwobr gan aelodau staff a myfyrwyr, a dyfarnodd paneli o feirniaid arbenigol y gwobrau canlynol:

  • Gwobr Cyfraniad Arbennig: Yr Athro Siwan Davies
  • Gwobr Cyfraniad Arbennig Myfyriwr: Dr Shannon Rowlands ac Alpha Evans
  • Gwobr Seren Ymchwil cyfrwng Cymraeg: Yr Athro Gwynedd Parry a Dr Elain Price
  • Gwobr Seren Ymchwil ôl-radd cyfrwng Cymraeg: Dr Grug Muse a Dr Wyn Mason
  • Gwobr Addysgu Arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg: Sharon Jones
  • Gwobr Cyfraniad i Gefnogi Myfyrwyr: Dr Non Vaughan Williams ac Iwan Williams
  • Gwobr Dysgwr Disglair (Myfyriwr): Helen Bartlett
  • Gwobr Dysgwr Disglair (Staff): Rhydian Francis-Morris

Meddai'r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi a Chadeirydd Cangen Abertawe, “Mae’r cydweithio rhyngom ni a'r Coleg Cymraeg wedi bod yn hynod o hwylus ac adeiladol dros y blynyddoedd gan ddwyn budd sylweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae wedi bod yn ddegawd o gynnydd a llwyddiannau amrywiol i staff a myfyrwyr y Gangen sydd wedi gwneud cyfraniadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan ddwyn bri ar y Brifysgol a'r Coleg Cymraeg. Pleser o'r mwyaf oedd cael cyflwyno gwobrau i rai o’r aelodau yn ystod y digwyddiad a chydnabod eu cyfraniadau i gyfoethogi addysg a chymuned cyfrwng Cymraeg Abertawe.”