GwyddonLe, Eisteddfod yr Urdd, 2024

Prifysgol Abertawe yw noddwr y GwyddonLe, Eisteddfod yr Urdd

Mae'r GwyddonLe yn denu dros 40,000 o ymwelwyr pob blwyddyn

Llun o babell y GwyddonLe yn 2023

Y Brifysgol i gynnal GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, 2024

Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o noddi pabell y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Meifod ym Maldwyn.

Bydd staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn eich croesawu gyda llu o weithgareddau rhyngweithiol gwyddonol ar gyfer ymwelwyr o bob oed  i'w mwynhau. Yn ogystal ag arbrofion, posau a gemau gyda stondinwyr fel Technocamps a'r criw Realiti Rhithwir, bydd hefyd cyfle i greu darnau celf a chrefft i gyd-fynd â thema'r GwyddonLe eleni, sef Egni.

Un o brif ddigwyddiadau'r GwyddonLe erbyn hyn yw'r gystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan sydd yn denu cynulleidfa fawr ers rhai blynyddoedd bellach. Cynhelir y gystadleuaeth hon ar lwyfan y GwyddonLe ar y dydd Gwener gan roi cyfle i ddisgyblion ysgol blynyddoedd 10 - 13 gyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn pwnc llosg cyfredol. Eleni, yr Athro Trystan Watson, o Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe, sydd wedi gosod y testun sef, "Dyfodol Di-Garbon i Gymru: Breuddwyd neu Realiti?", a bydd yr Athro Watson yno yn beirniadu'r gystadleuaeth ar Fai 31ain.

Meddai'r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Prifysgol Abertawe ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant:

"Rydym yn hynod falch o bartneriaeth hir sefydlog Prifysgol Abertawe gydag Urdd Gobaith Cymru, un sydd wedi mynd o nerth i nerth. Erbyn hyn y GwyddonLe yw un o brif atyniadau maes y Brifwyl gan groesawu degau o filoedd o bobl ifanc bob blwyddyn. Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu mwy fyth i babell GwyddonLe 2024 ym Meifod!"

Logo Eisteddod yr Urdd, Maldwyn

Lluniau Gwyddonle 2023

Untitled