Cyfle Cyffrous i Fyfyrwyr Abertawe yn y Babell Lên

Profiad gwaith i gynhyrchu rhaglenni uchafbwyntiau'r Babell Lên ar gyfer S4C

Mae dau o fyfyrwyr yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle  i gael profiad gwaith fel rhedwr/wraig yn y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Bydd y ddau, sef Brengain Jones a Cai Rhys, yn gweithio gyda chwmni teledu Cwmni Da sy’n cynhyrchu rhaglenni uchafbwyntiau'r Babell Lên ar gyfer S4C. 

Daw’r cyfle hwn i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn sgil y ffaith mai Prifysgol Abertawe sy’n noddi’r Babell Lên yn Llanrwst ac am y tair blynedd nesaf. Yn ogystal ag ennill profiad gwerthfawr o weithio gydag un o brif gwmnïau cyfryngau Cymru, bydd y myfyrwyr hefyd yn derbyn  tocyn mynediad i'r maes am yr wythnos, a thocyn i wersylla a mynychu gigs Maes B.

Mae Cai Rhys yn dechrau ar ei flwyddyn olaf yn astudio am BA mewn Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus tra bod Brengain Jones newydd gwblhau Gradd Meistr mewn Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus.

Meddai Non Vaughan Williams, Uwch Ddarlithydd Cyfryngau Digidol yn Adran Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe:  “'Mae medru cynnig profiad gwaith fel hwn i fyfyrwyr yn rhoi cyfle iddyn nhw roi ar waith y sgiliau ymarferol a ddysgwyd yn y dosbarth, a hynny mewn cyd-destun prysur gyda chwmni proffesiynol. Mae'n gyfle hefyd i ddeall gofynion y gweithle, a dod i adnabod unigolion sy'n gweithio i'r diwydiannau creadigol.”

Eisteddfod