Prif Weinidog Cymru ymhlith y degau o filoedd o ymwelwyr â'r GwyddonLe

Roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ymhlith y degau o filoedd o bobl ddaeth i ymweld â’r GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mhenybont y mis diwethaf.

Y  GwyddonLe, sydd wedi ei noddi gan Brifysgol Abertawe, oedd un o atyniadau mwyaf poblogaidd y maes, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob dydd.  Gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe fu’n arwain rhaglen y GwyddonLe, gan alluogi ymwelwyr o bob oed i brofi rhyfeddodau’r amryw feysydd gwyddonol sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Abertawe.

Gydol yr wythnos bu darlithwyr a myfyrwyr o’r adrannau Daearyddiaeth, Mathemateg, Biowyddorau, Meddygaeth, Peirianneg, Gwyddor Chwaraeon, a Gwaith Cymdeithasol yn cynnal gweithgareddau rhyngweithiol i ymwelwyr, drwy gyfrwng arddangosiadau ac arbrofion. Roedd hefyd stondin yn hyrwyddo  gwaith prosiect Oriel Science y Brifysgol, sy’n cynnal arddangosfa a gofod dysgu cyhoeddus yng nghanol dinas Abertawe.

Roedd Prifysgol Abertawe hefyd yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill o fewn y GwyddonLe, gan gynnwys Creadigidol, Big Learning Company, Coleg Penybont, Circus Eruption, Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru, cwmni Mad Science, y Bathdy Brenhinol, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Sefydliad Ffiseg, Ymddiriedolaeth Natur Cymru a Chymdeithas Adeiladu Abertawe.

Cafodd ymwelwyr hefyd gyfle i gael gwybodaeth am y cyrsiau a’r cyfleoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Yr oedd yn bleser croesawu'r Prif Weinidog yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC  a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC i'r GwyddonLe yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae Prifysgol Abertawe yn angerddol dros ysbrydoli pobl ifanc ynghylch gwyddoniaeth a thechnoleg ac mae'r GwyddonLe yn gyfle arbennig i gynnau diddordeb yn y gwyddorau,  gan annog disgyblion i barhau a'u hastudiaethau yn y Brifysgol hon yn y dyfodol."

"Mae Prifysgol Abertawe yn ymfalchïo yn y berthynas sydd gennym gydag Eisteddfod yr Urdd a gobeithio y bu pawb a fu’n ymweld â'r GwyddonLe yn mwynhau’r wledd o weithgareddau oedd ar gael."