Pleidlais o blaid Swyddog Materion Cymraeg llawn amser wedi ei hennill

Logo'r Undeb

Swyddog i sicrhau llais cryfach o fewn yr Undeb i'r siaradwyr Cymraeg

Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi pleidleisio o blaid newid rôl y Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb o fod yn un rhan amser i fod yn un llawn amser.

Cynhaliwyd y refferendwm i benderfynu a ddylai Undeb Myfywyr Prifysgol Abertawe gyflogi Swyddog Materion Cymraeg llawn amser dros gyfnod o dridiau yr wythnos ddiwethaf, yn sgil pleidlais o blaid gwneud hynny yng Nghyfarfod Cyffredinol yr Undeb ddechrau Mai.

O’r 681 o fyfyrwyr a bleidleisiodd, roedd 519 o blaid penodi Swyddog Materion Cymraeg llawn amser.

Meddai Tomos Watson, Swyddog Materion Cymraeg rhan amser presennol yr Undeb:

“Mae llwyddo i gael Swyddog Materion Cymraeg Llawn Amser yn Undeb Abertawe yn rhywbeth mae myfyrwyr Cymraeg wedi breuddwydio amdano ers blynyddoedd. Mae bod ar flaen y gad, ac yn rhan o'r ymgyrch wedi bod yn bleser ac mae'r canlyniad yn anhygoel.

Bydd Swyddog Llawn Amser yn sicrhau llais cryf i’r Gymraeg yn yr Undeb ac o fewn y sefydliad. Mae hyn yn sicrhau dyfodol a chyfleoedd inni Gymry ond mae hefyd yn rhoi cyfle inni ymfalchïo a rhannu'n diwylliant a'n hiaith efo'r boblogaeth myfyrwyr ehangach.

Gyda gwaith ehangach trwy’r adrannau academaidd yn cynnig cyfleoedd iaith Gymraeg i fyfyrwyr, a nawr effaith posib y rôl hon, mae'r dyfodol yn ddisglair i'r gymuned iaith Gymraeg yma yn Abertawe.” 

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe : 

“Hoffai holl staff Academi Hywel Teifi, yn academyddion a gweinyddwyr ar draws Prifysgol Abertawe i gyd, longyfarch aelodau Undeb Myfyrwyr Abertawe ar ganlyniad y refferendwm hwn sydd wedi sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb gan y miloedd o siaradwyr Cymraeg sydd ymhlith myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Bydd y swyddog pan yn weithredol nid yn unig yn codi llais ar ran Cymry Cymraeg ond yn fodd o sicrhau bod gwell mynediad at a dealltwriaeth o’r iaith a’i diwylliant gan holl fyfyrwyr y sefydliad. Cydlynwyd ymgyrch arbennig yn ystod y refferendwm gan Tomos Watson, swyddog rhan-amser cyfredol yr Undeb ar ran y Gymraeg, ac mae diolch sylweddol iddo am ei arweiniad a’i ddyfalbarhad.

Edrychwn ymlaen at gydweithio agos a gweithgar gyda’r Swyddog pan fydd ef neu hi wedi’i hethol a chynnydd wedyn ym mhroffil a llewyrch y Gymraeg o fewn yr Undeb a’r Brifysgol.”

Bydd canlyniad y refferendwm nawr yn cael ei wirio gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr ac yn cael ei brosesu drwy ei bwyllgorau. Bydd etholiadau ar gyfer ethol y Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf yn cael eu cynnal yng Ngwanwyn 2019.