Llwyddiant Her Academi Morgan

Unwaith eto eleni, Prifysgol Abertawe oedd noddwyr y GwyddonLe, Pafiliwn Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Fel rhan o’r gweithgareddau, fe gynhaliodd Academi Morgan, sy’n ymchwilio i faterion polisi cyhoeddus, a'r Adran Ddaearyddiaeth gystadleuaeth siarad cyhoeddus ar lwyfan y GwyddonLe ar fore Gwener Mehefin 1af, ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 i 13. 

Cyrhaeddodd timau o dair ysgol y rhestr fer sef Ysgol y Creuddyn, Ysgol Gartholwg ac Ysgol Bro Teifi gydag un disgybl o bob tîm yn dadlau dros y testun gosod a’r llall yn erbyn. Y pwnc trafod oedd  “Mae ynni niwclear yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflenwad ynni cynaliadwy i Gymru”. Dr Osian Elias o'r Adran Ddaearyddiaeth yn cadeirio. 

Thomas Kemp o Ysgol Gyfun Gartholwg gipiodd y wobr o £250 i’w ysgol fel y siaradwr gorau o blaid y testun, a Mollie Sterriker-Ellis o Ysgol Creuddyn yn derbyn £250 i’w hysgol fel y siaradwr gorau yn erbyn y testun. Siaradwr gorau’r gystadleuaeth ac enillydd tlws Her Academi Morgan oedd Ellen Jones o Ysgol y Creuddyn. Ar ben ennill yr Her, derbyniodd Ellen wobr o ddod ar brofiad gwaith i Academi Morgan, Prifysgol Abertawe neu gydag Aelodau Cynulliad ei hardal. Derbyniodd pawb a gymerodd rhan dystysgrif Her Academi Morgan.  

Daeth Gweinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AC i wylio Her Academi Morgan ac fe fu’n sgwrsio gyda’r cystadleuwyr wedi’r gystadleuaeth ynglŷn â’u safbwyntiau a’u profiadau.  

Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd un o'r beirniad, Helen Mary Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Academi Morgan, bod y safon yn hynod o uchel a'i bod hi wrth ei bodd wrth glywed cynifer o bobl ifanc yn dadlau eu hachos mewn modd mor huawdl a chrefftus.

ydym fel Prifysgol yn edrych ymlaen at groesawu’r enillydd Ellen Jones i’r Brifysgol ar brofiad gwaith ac yn llongyfarch pawb a gymerodd rhan.  

 

Enillydd: Ellen Jones, Ysgol y Creuddyn

Siaradwr gorau’r gystadleuaeth ac enillydd tlws Her Academi Morgan oedd Ellen Jones o Ysgol y Creuddyn