Profiad gwych i enillydd Her Sefydliad Morgan 2023

Enillydd yr Her a deiliad tlws Her Sefydliad Morgan 2023 oedd Mali Jones

Mali Jones gyda Cefin Cambell a Dr Angharad Closs Stephens

Profiad anhygoel yn dysgu am gysylltiadau rhyngwladol a rhagweld etholiadau

Mae'r gystadleuaeth siarad cyhoeddus Her Sefydliad Morgan, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol ar lwyfan y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd, wedi dod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr wythnos. Cystadleuaeth ydyw sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol blynyddoedd 11 i 13, gyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn pwnc llosg a hynny o flaen cynulleidfa fyw a beirniaid blaenllaw ym maes polisi a gwleidyddiaeth.

Yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin, disgyblion o Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed aeth benben â'i gilydd i drafod y datganiad "Nid yw'r syniad o gynefin yn gallu cydnabod hanes hiliaeth ac amrywiaeth yng Nghymru". Cafodd y beirniaid, Cefin Campbell AS a Dr Angharad Closs Stephens o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, dasg anodd i adnabod enillydd ond Mali Jones o Ysgol Gwent is Coed gipiodd y tlws am ennill siaradwr gorau'r gystadleuaeth.

Yn ogystal ag ennill gwobr ariannol i'r ysgol, roedd Mali yn cael profiad gwaith o'i dewis a drefnwyd iddi gan Academi Hywel Teifi. Mae gan Mali ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol a rhagolygon etholiadol ac felly trefnwyd ei bod yn treulio diwrnod yng nghwmni Dr Matthew Wall, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Treuliodd Mali ddiwrnod llawn ar gampws Singleton a phrofi nifer o weithgareddau difyr tu hwnt, gan gynnwys, bod yn rhan o seminar ar gyfer cwrs Etholiadau a Phleidleisio lle'r roedd myfyrwyr yn cyflwyno a thrafod eu syniadau ar gyfer asesiadau traethawd a phodlediad. Cynorthwyodd Mali Dr Wall gyda pharatoi a chyflwyno darlith ar ddulliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-raddedig a gwyliodd grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio rhagolygon etholiadol ar y cwrs Ymchwilio i Wleidyddiaeth, yn ymarfer eu cyflwyniadau ac yn derbyn adborth.

Meddai Dr Wall: “Roedd yn ddiwrnod prysur ac roedd Mali wedi ymgysylltu a chyfrannu’n arbennig, yn enwedig wrth drafod syniadau gyda mi ar gyfer cais ymchwil ‘effaith’ yr wyf yn gweithio arno a fydd yn creu cyfres o bodlediadau yn canolbwyntio ar ymgyrch etholiadol Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 2024, yn seiliedig ar dwrnamaint rhagweld etholiadol. Yn benodol, bu Mali a minnau yn trafod ei mewnwelediad i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, datblygu cysylltiadau a chyfleoedd ymgysylltu gyda dylanwadwyr, ac apelio at bobl ifanc sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Roedd Mali yn wirioneddol frwdfrydig a disglair ac roedd yn bleser gennyf i'w chroesawu i'r Adran."

Meddai Mali am ei phrofiad: "Braint ar y mwyaf oedd bod yng nghwmni Dr Matt Wall o Brifysgol Abertawe i drafod gyrfa mewn gwleidyddiaeth. Roedd hi’n brofiad anhygoel gallu mynychu darlith ar gysylltiadau rhyngwladol, a dwy seminar ar ragweld etholiadau. Yn ogystal, cawsom drafodaeth hynod o ddiddorol ar ei brosiect ‘What are the odds?’ a'r ffyrdd o'i hyrwyddo i amrywiaeth eang o bobl.  Fy hoff ran o'r diwrnod oedd y profiad o fod yn fyfyriwr gyda darlithydd o’r Brifysgol. Ar y naill llaw ges i’r cyfle i wylio Dr Wall yn cwblhau gwaith a pharatoi ar gyfer ei ddarlithoedd, ond ar y llaw arall cefais fy annog i ymuno â grwpiau seminar i drafod a holi am wleidyddiaeth a democratiaeth. Roedd hi’n gyfle euraidd i gael blas ar fywyd prifysgol, a dysgais gymaint am bwysigrwydd technoleg o fewn y system ddemocratiaeth, gwybodaeth rydw i’n gallu cynnwys yn fy mhroject Bagloriaeth Cymru eleni.  Diolch o galon i Dr Wall a Phrifysgol Abertawe am y cyfle anhygoel yma."