Arlwy anhygoel y GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Eleni, bydd presenoldeb Prifysgol Abertawe yn amlwg yn y GwyddonLe unwaith eto wrth i ni baratoi at deithio i Ynys Môn i arddangos llu o arbrofion a gweithgareddau rhyngweithiol o bob math i deuluoedd Cymru!
Bydd wythnos y GwyddonLe yn dechrau ychydig yn wahanol i'r arfer gyda phartneriaeth arbennig rhwng Prifysgol Abertawe ac ESports Wales yn golygu na fydd y stondinau arferol ar agor i'r cyhoedd dros y penwythnos agoriadol. Yn hytrach, bydd Twrnamaint Rocket League cyffrous yn cael ei gynnal yn y GwyddonLe gyda chystadleuaeth arbennig rhwng timau o ddisgyblion ysgol a chyfle i ennill tlws, medalau a gwobrau. Croeso i unrhyw un ddod i wylio'r cyffro!
Ar ddydd Llun, bydd drysau'r GwyddonLe ar agor fel arfer gydag amrywiaeth eang o stondinau i danio dychymyg plant ifanc Cymru. Ymysg y gweithgareddau, bydd yr Ysbyty Tedi yn dychwelyd a chyfle i ddysgu sgiliau achub bywyd gyda’r criw meddygaeth, stondin bydwreigiaeth yn dangos sut mae babi’n tyfu yn y groth, a syrcas mathemategol yn llawn gweithgareddau rhyngweithiol hwyliog. Bydd nifer o bartneriaid lleol yn manteisio ar y cyfle i arddangos yn y GwyddonLe hefyd, gan gynnwys Menter Môn a Morlais, Trydan Gwyrdd Cymru, Prosiect Morwellt, Rhwydwaith Ynni Scottish Power, Cymdeithas Frenhinol Cemeg, Gwasanaethau Adfer Niwclear, Ymddiriedolaeth Addysgu Gwyddoniaeth.
Bydd Prifysgol Bangor hefyd yn cyfrannu at y GwyddonLe gyda stondinau o’r adrannau Peirianneg a Chyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon, Gwyddorau Iechyd, Seicoleg, Gwyddorau Eigion ac MSparc. Yn ogystal â hyn oll, bydd gan y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol (IBMS) labordy arbennig y tu allan i’r GwyddonLe mewn lori! Llu o weithgareddau gwahanol i ddiddanu pawb!
Mae ein cystadleuaeth siarad cyhoeddus, Her Sefydliad Morgan, yn dychwelyd i lwyfan y GwyddonLe ond y tro hwn, ar ddydd Llun yr Eisteddfod gwelwn yr ysgolion yn dadlau. Testun trafod eleni yw, "Dylai'r GIG gynnig gofal iechyd yn Gymraeg yn rhagweithiol i bawb yng Nghymru" a bydd disgyblion o Ysgolion Glan Clwyd, Bro Morgannwg a Bryn Tawe yn dadlau yn erbyn ei gilydd er mwyn cipio'r tlws eleni. Beirniaid y gystadleuaeth fydd Dr Alwena Morgan, Athro Cyswllt yn y Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Abertawe ac Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru.
Yn dilyn Her sefydliad Morgan ar brynhawn dydd Llun, cynhelir lansiad o lyfryn newydd Gofalu trwy'r Gymraeg. Crëwyd y llyfryn gan staff Prifysgol Abertawe gyda chefnogaeth ariannol HEIW (Sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru) a’n galluogodd i’w argraffu. Adnodd ymarferol, bychan ydyw sy’n rhoi mynediad cyflym at ymadroddion defnyddiol Cymraeg er mwyn galluogi gweithwyr gofal iechyd i gyfathrebu gyda chleifion dros Gymru yn eu hiaith ddewisol.
Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant:
"Mae'n dda gan Brifysgol Abertawe ein bod yn cydlynu gweithgareddau'r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd eleni eto, ac mae arlwy gyffrous gennym wedi'i threfnu ar gyfer yr ŵyl yn Ynys Môn. Diolch i gydweithio rhwydd gyda'r Urdd, Prifysgol Bangor ac ESports Wales rydym wedi llwyddo i ymateb nid yn unig i'r her o drefnu gweithgaredd sydd gryn bellter o'n hardal ni yn ne Cymru, ond hefyd i'r drefn newydd yn wythnos yr Eisteddfod. Bydd gyda ni benwythnos agoriadol arloesol a chyffrous gydag e-steddfod chwaraeon mewn partneriaeth ag ESports Wales, cyn bod stondinau amrywiol ac atyniadol gyda ni a Phrifysgol Bangor i gyflwyno gwyddoniaeth a thechnoleg i bobl ifanc Cymru weddill yr wythnos. Mae'r GwyddonLe'n adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gefnogi'r Urdd ond hefyd i gyfathrebu gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg mewn dull hwyliog a difyr i holl fynychwyr yr Eisteddfod."