Dathlu Camp Alan Llwyd

Alan Llwyd, Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, yn ennill Cadair 2023

Alan Llwyd yn eistedd yn ei gadair ar lwyfa Eisteddfod Genedlaethol 2023

Noson arbennig iawn i gyfarch y Prifardd Alan Llwyd

Fis Hydref, cynhaliwyd noson arbennig iawn i gyfarch y Prifardd Alan Llwyd yn ei gymuned yn dilyn ei gamp yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. O ganlyniad i lacio rheol yr Eisteddfod am ennill ddwy waith yn unig, Alan yw’r bardd cyntaf i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol am y trydydd tro.

Er mai brodor o Ben Llŷn ydyw, mae Alan wedi ymgartrefu yn ardal Treforys, Abertawe ers blynyddoedd bellach ac wedi magu ei deulu yno. Lleoliad addas iawn felly i gynnal y noson oedd Canolfan Calon Lân, Capel Mynyddbach, gyda gwahoddiad agored i’r gymuned ymuno ac yn wir fe ddaeth tyrfa.

Cafodd y gynulleidfa wledd wrth glywed côr Ysgol Gymraeg Bryntawe yn canu yn ogystal â pharti llefaru’r Ysgol yn perfformio cerdd Iwan Llwyd, 11.12.82. Cafwyd mwy o ganu bendigedig gan gôr Lleisiau Lliw a dewisodd barti llefaru Aelwyd yr Elyrch, Prifysgol Abertawe, berfformio detholiad o waith enwog Dylan Thomas, Dan y Wenallt.

Llywiwyd y noson mewn modd graenus a chartrefol gan un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C, Sian Thomas, sydd hefyd yn gyn-fyfyrwraig Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Cafodd y gynulleidfa’r profiad unigryw o glywed Robert Rhys, sy’n Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd i'r Brifysgol, yn trafod y gerdd fuddugol, ‘Llif’. Tynnodd Robert Rhys sylw at rai o nodweddion arbennig y gerdd ac yn enwedig, y modd y gallwn uniaethu gyda geiriau’r bardd a’i allu aruthrol i greu cynghanedd gyflawn mewn arddull mor ddealladwy i'r darllenydd.

Un o uchafbwyntiau’r noson yn sicr oedd bod yng nghwmni mwy nag un prifardd wrth i rai o gyfeillion Alan ei gyfarch gyda cherddi. Anrhydedd yn wir oedd gwrando ar y Prifeirdd Tudur Hallam, Christine James, Aneirin Karadog a Robat Powell yn darllen cerddi a gyfansoddwyd ganddynt yn benodol ar gyfer y noson honno.

Meddai’r Athro Gwynedd Parry, Pennaeth Adran y Gymraeg, “Cafwyd noson hynod o lwyddiannus i ddathlu camp hanesyddol bardd mwyaf Cymru sydd hefyd yn ysgolhaig ac yn aelod gwerthfawr o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch i Academi Hywel Teifi am drefnu achlysur oedd yn tynnu'r Brifysgol a'r gymuned ynghyd, ac i'r holl gyfranwyr am berfformiadau a theyrngedau cofiadwy.”

Meddai Syr Roderick Evans, Cadeirydd Academi Hywel Teifi a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, “Roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o noson oedd yn ein hatgoffa o gyfoeth rhyfeddol ein cymdeithas a’n cenedl a rhoi cyfle i’r gymuned gyfleu eu hedmygedd o Alan a’i gyfraniad enfawr at drysorau ein llên. Wrth wrando ar driniaeth ddeheuig Robert Rhys o gerdd Alan, a cherddi cyfarch y prifeirdd ar y noson, mae’n amlwg bod cyfoeth o ddoniau wedi bod, ac yn parhau i fod, ynghlwm ag Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe!”

Cerdd yr Athro Brifardd tudur Hallam

 

Cerdd yr Athro Brifardd Christine James

Cerdd y Prifardd Robat Powell

Cerdd y Prifardd Aneirin Karadog

Gwyliwch eitem am y noson a recordiwyd gan Prynhawn Da ar S4C

Porwch drwy luniau'r noson i ddathlu camp y Prifardd Alan Llwyd

Noson i gyfarch y Prifardd Alan Llwyd