Symposiwm Ymchwil Ôl-raddedig Cyntaf y Gangen

Symposiwm cyntaf fel rhan o ddathliadau Cangen Abertawe

Myfyrwyr olradd a wnaeth gyflwyno yn y Symposiwm

Dyma’r Symposiwm cyntaf o’i fath i gael ei gynnal gan Gangen Abertawe

Fel rhan o ddathliadau deng mlwyddiant Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, trefnwyd Symposiwm Ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd gael cyflwyno eu gwaith ymchwil, boed hynny am eu bod wedi cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg neu beidio. Dyma’r Symposiwm cyntaf o’i fath i gael ei gynnal gan y Gangen ac mae’n bleser dweud bod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Stiwdio Taliesin ym mis Rhagfyr, wedi bod yn llwyddiannus dros ben.  

Cafwyd cyflwyniadau gan Maisie Edwards, Megan Kendall, Ben Walkling, Alpha Evans ac Iolo Jones. Roedd themâu’r cyflwyniadau yn amrywio’n eang o feysydd Meddygol i Ddaearyddol fel y gwelwch o deitlau’r cyflwyniadau isod: 

  • Safbwynt y Cyhoedd ar y Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru 
  • Deall Ffurfiad Ocsid ar Diwbiau Dur Carbon yn ystod Prosesu Tymheredd Uchel 
  • Sut i Gategoreiddio Tomennydd Glo 
  • Diwylliant, Iaith a Gweithrediadau Cyfreithiol: Abertawe, 1890-1914 
  • Y Geiriadur Lladin-Cymraeg (Thomas, 1979): ei gyd-destun hanesyddol, ei ddatblygiad a’i ddyfodol 

Cadeiriwyd y symposiwm gan Indeg Owen, Swyddog Cangen Abertawe ac roedd yn gyfle i fyfyrwyr arddangos a thrafod eu gwaith ymchwil. Cafodd y gynulleidfa gyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd pob cyflwyniad hefyd. Am brofiad gwych i’r myfyrwyr!

Alpha Evans
Megan Kendall
Iolo Jones
Maisie Edwards