Atgofion Abertawe - Elin Rhys

Sylfaenydd Telesgop a Chynhyrchydd

Dywedwch ychydig wrthym am ddod i astudio yn Abertawe ac eich gyrfa wedi hynny.

Yn wreiddiol fe es i Brifysgol Abertawe i astudio swoleg a microbioleg am fod gen i obsesiwn gyda phethau bychain, anweladwy! Yn y flwyddyn gyntaf roedd rhaid dewis dau bwnc arall. Dewisais gemeg fel un ohonyn nhw  – ond wedyn roedd hi’n benbleth dewis rhwng biocemeg a seicoleg gan nad oeddwn yn gwybod dim am y naill bwnc na’r llall ar y pryd. Meddyliais y byddai seicoleg yn golygu ysgrifennu traethodau hir felly biocemeg aeth â hi.  Ddiwedd y flwyddyn gyntaf fe ges lythyr caredig iawn yn fy mlwch post gan yr Adran Fiocemeg yn fy ngwahodd i wneud gradd mewn biocemeg pur. Roeddwn wedi pasio yr arholiad yn dda iawn medde nhw a rhaid cyfaddef i mi deimlo cryn falchder, felly newidiais fy meddwl am swoleg a microbioleg ac ymuno gyda’r ysgol fiocemeg ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. 

Elin Rhys

Sylfaenydd Telesgop a Chynhyrchydd

Elin Rhys heddiw

Sylweddolais yn ddiweddarach fod pawb a oedd yn neud biocemeg y flwyddyn gyntaf honno wedi cael yr un llythyr!!  Ond yn fuan iawn sylweddolais bod biocemeg yn apelio yn fawr ataf, gan fod yr holl adweithiau mewn celloedd yn hollol anweladwy ac yn rhyfeddol o glyfar. Felly roedd y penderfyniad yn un iawn wedi’r cyfan!  Nes i raddio yn 1978. Mae biocemeg wedi newid llawer ers hynny!

Wedi graddio, fe wnes ddilyn cwrs hyfforddi i fod yn athrawes, ond nes i fyth geisio am swydd. Ymchwiliais i addasrwydd addysg wyddoniaeth drwy’r iaith Gymraeg, ac mae hynny wastad wedi bod o ddiddordeb mawr i fi. Yr amser hynny (1979) prin iawn, iawn, oedd y cyfleoedd i astudio gwyddoniaeth yn Gymraeg.  Yn dilyn 5 mlynedd fel gwyddonydd yn Awdurdod Dŵr Cymru fe wnes ddechrau gyrfa yn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni teledu a radio – gan geisio canolbwyntio cymaint ag oedd yn bosib ar bynciau gwyddonol.  30 mlynedd yn ôl sefydlais gwmni Telesgop gan gyflogi timoedd o bobl i gynhyrchu rhaglenni megis Ffermio, Bro, Y Sioe Fawr, a channoedd o rai eraill . 

Elin yn ei blwyddyn olaf

gyda’r darlithwyr a myfyrwyr PhD

Elin Rhys gyda’i darlithwyr a myfyrwyr PhD yn 1978

Ond yn bersonol rwyf wedi ceisio glynu at raglenni gwyddonol fel Dibendraw, Her yr Hinsawdd ar y teledu ac  Yfory Newydd a’r Cwestiwn Mawr ar BBC Radio Cymru. Radio yw fy nghariad pennaf.

Soniwch ychydig am eich amser yn y Brifysgol gan rannu eich hoff atgofion neu brofiadau.

Roedd fy nghyfnod yn Abertawe yn gyffrous. Roedd hi’n amser brwydro dros yr iaith Gymraeg, cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol, mynnu cyfiawnder i ferched, ffeindio fy nhraed a mynd i’r traeth! Yng nghanol hynny i gyd, syrthiais mewn cariad â biocemeg.

Un o’r profiadau gorau a gefais oedd cael fy nysgu gan fy nhiwtor, y diweddar Dr John S Davies, Cemeg. Daethom yn ffrindiau wedi i mi wneud camgymeriad mawr wnaeth olygu bod asid poeth wedi saethu allan o’r fflasg gan wneud twll yn y nenfwd! Sylweddolodd Dr Davies, wrth i mi drio osgoi’r gawod, ’mod i’n siarad Cymraeg ac fe fu’n gymorth enfawr i fi am weddill fy nghyfnod yn Abertawe. Fe fu’r twll yn y nenfwd yno am flynyddoedd hefyd! Fe wnaeth Dr John S waith arbennig yn hybu gwyddoniaeth drwy’r Gymraeg ac roedd yn un o sylfaenwyr Pentre Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Profiad arall sy’n aros yn y cof yw ymarferion yr Eisteddfod Ryng-Gol. Doedd Abertawe byth yn mynd i ennill llawer yn yr Eisteddfod am fod rhan fwyaf o Gymry brwd bryd hynny yn mynd yn fyfyrwyr i Aberystwyth neu Fangor. Ond pe bae gwobr am frwdfrydedd, teyrngarwch, a joio– Abertawe oedd wastad ar y brig! Rhywsut, fi oedd yn arwain y côr; dwi’n dal i gofio’r darn ‘Y Nefoedd Sy’n Datgan…’ ac yn gweld wynebau Meic Birstistle, John Id, Paul, Melody, Jen a Gwenith, Huw Bach a Huw Llai, a Cefin yn morio canu. Wedyn yr uchafbwynt, gyda Ieuan Eg wrth y llyw – a llawer o help gan grŵp o fyfyrwyr o Chile, – fe enillon ni y Noson Lawen!!!! Byth wedi digwydd o’r blaen. Dyna beth oedd dathliad. Ac roedd yn enghraifft o sut roedd myfyrwyr o wahanol ddiwylliannau yn cyd-weithio a chyd-fwynhau. Lle felly yw Abertawe o hyd. 

Nid oes campws cystal yn unrhyw le â champws Parc Singleton, Abertawe.  Yn y flwyddyn gyntaf roeddwn yn byw mewn neuadd breswyl tuag at y Mwmbwls ac yn berchen ar fotobeic bach Honda 70 (peidied neb a’i alw yn moped!). Bob bore a nos roedd yn rhaid i mi groesi ffordd brysur Lôn y Mwmbwls, a rhoi fy ffydd yn fy ngallu i roi fy nhroed ar y sbardun er mwyn osgoi’r traffig. Dwi’n credu mai hyn sydd wedi cyfrannu at fy nawn i yrru car yn hyderus mewn dinasoedd prysur. Erbyn hyn mae yno oleuadau traffig, sydd llawer saffach ond llai cyffrous.  Roedd teithio i’r traethau yn yr Haf yn rhai o’r atgofion gorau yn enwedig yn Haf godidog 1976. Ond roedd wastad gwefr wrth reidio i mewn yn fy lledr a gauntlets du i fyny’r lôn tuag at y ffreutur eiconig a pharcio ymhlith beics BMW a Harley Davidson y myfyrwyr mwy llewyrchus….a breuddwydio!

 A fyddech chi’n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy’n ystyried mynd i’r Brifysgol?

Mae Prifysgol Abertawe yn fwy na phrifysgol. Mae yna ysbryd o fentergarwch, arloesi a dyfalbarhad yno. Allwch chi ddim osgoi cael eich gwefreiddio gyda hanes yr ymchwil wyddonol sydd wedi digwydd yno yn y gorffennol, yn enwedig mewn meysydd fel ffiseg. Yr arloeswyr aeth oddi yno i CERN yn Genefa er enghraifft a chyfrannu at arbrawf gwyddonol mwya’r byd; neu’r person ddyfeisiodd y ceudod magnetron ar gyfer radar, a wnaeth ganiatáu i Brydain ennill The Battle of Britain gynt.  Fe fu Abertawe yn llusern i’r Chwyldro Diwydiannol ac i ddatblygiad gwyddoniaeth yn gyffredinol. Braint oedd cael astudio yn adeilad Wallace – wedi’i enwi ar ôl y gŵr ddylai gael y clod am theori Esblygiad; ac yna  Adeilad Grove, ar ôl gwyddonydd a ddatblygodd y gell danwydd, sydd mor allweddol i geir trydan heddiw.  Mae gwybod bod Abertawe heddiw yn arwain y byd o ran arloesedd ynni gwyrdd yn rhoi tipyn o wefr i mi.  Baswn wir yn argymell Prifysgol Abertawe fel lle ysbrydoledig i ddechrau gyrfa oes.

Unrhyw beth ychwanegol hoffech rannu?

Roeddwn yn aelod o Gymdeithas yr Iaith, ac yn drist braidd nad oedd modd astudio biocemeg yn Gymraeg. Felly, er mwyn profi pwynt, fe es ati i gyfieithu ar y pryd fy holl nodiadau yn y darlithoedd gan fathu termau newydd fy hunan heb unrhyw resymeg, na dawn.  Aeth popeth yn iawn tan i mi orfod adolygu fy nodiadau ar gyfer arholiadau, oedd yn Saesneg wrth gwrs, a sylweddoli nad oeddwn yn deall dim o beth oeddwn wedi ysgrifennu, ac methu neud pen na chwt o’r termau annelwig a fathais! Fe fues yn adolygu o nodiadau ffrindiau!!  Ond braf dweud erbyn heddiw bod modd, nid yn unig astudio biocemeg israddedig yn Gymraeg, ond bod yna nifer o fyfyrwyr yn neud eu PhD biocemeg yn Gymraeg oherwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dw i wedi cael y fraint o gyfweld nifer ohonynt, a’u darlithwyr gwych.  Byddai Dr John S Davies gynt wrth ei fodd.