Nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr Meddygaeth yn dysgu Cymraeg

Myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion yn mynychu gwersi Cymraeg wythnosol

Mae nifer uwch nag erioed o fyfyrwyr meddygaeth Prifysgol Abertawe yn manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg diolch i gwrs newydd i ddechreuwyr, a ddatblygwyd gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n rhan o Academi Hywel Teifi.

Mae 62 myfyriwr ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion (Graduate Entry Medicine – ‘GEM’) yn mynychu gwersi wythnosol mewn dosbarthiadau rhithiol, gyda’r nod o wella eu sgiliau cyfathrebu er mwyn darparu gwell cefnogaeth i gleifion sy’n siaradwyr Cymraeg.

Mae’r cwrs yn cyflwyno geirfa a brawddegau sy’n berthnasol i’r byd meddygol i’r myfyrwyr, fydd yn mynd ar leoliadau ar draws Cymru yn ystod eu pedair blynedd o astudio.  Bwriad y cwrs, hefyd, yw tanio brwdfrydedd yn y myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael hwyl wrth ddysgu Cymraeg.

Gwersi Cymraeg wythnosol

Siot o'r screen tra bod myfyrwyr yn cael gwers Cymraeg ar Zoom

Eglurodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi:

“Yn y gorffennol, mae cyrsiau preswyl wedi’u cynnal ar gyfer myfyrwyr GEM, sydd wedi denu oddeutu 50 o fyfyrwyr ar y tro, fodd bynnag rydyn ni’n falch dros ben i weld nifer uwch nag erioed yn dilyn ein cwrs newydd eleni.

“Lluniwyd y cwrs er mwyn rhoi sgiliau cyfathrebu gwell i fyfyrwyr meddygaeth a fyddai’n gweddu’n well i’w hamgylchedd gwaith yng Nghymru.  Bydd nifer o’r myfyrwyr yn dewis aros yng Nghymru ar ôl iddynt raddio, a gobeithiwn mai dechrau eu taith yw’r cyflwyniad hwn i’r iaith, naill ai’n adennill eu sgiliau Cymraeg neu eu datblygu o’r newydd.  Mae gweld eu brwdfrydedd i ymwneud â’r iaith ac ychwanegu sgil arall i’w rôl fel meddygon yn wych.”

Meddai Emyr Jones, tiwtor Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, “Er nad yw pob myfyriwr yn disgwyl gweithio yng Nghymru yn y dyfodol, maen nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu ychydig o Gymraeg i’w defnyddio fel rhan o’u hyfforddiant mewn ysbytai yng Nghymru.  Mae’r myfyrwyr mor frwdfrydig ac yn cydnabod pwysigrwydd gallu cyfathrebu gyda chleifion yn eu hiaith ddewisol – bydd hyd yn oed defnyddio ymadroddion syml yn gwneud byd o wahaniaeth i helpu cleifion i ymlacio.”

Mae’r Athro Kamila Hawthorne, sy’n Bennaeth Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn dysgu Cymraeg. Meddai : “Wrth gael eu croesawu i Gymru, mae ein myfyrwyr meddygaeth yn Abertawe wedi llwyr gofleidio byw ac astudio yng Nghymru.  Maen nhw wedi dangos gwir frwdfrydedd i ddysgu Cymraeg ac i gymathu gyda phobl Cymru, a gobeithiwn y byddant yn cadw darn bach o Gymru yn eu calonnau!  Byddai’n hyfryd eu gweld yn aros yma!”

Dyma oedd gan rai o’r myfyrwyr GEM i ddweud am eu profiadau