Llwyddiant i Adran y Gymraeg yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn

Daeth yr Athro Alan Llwyd i'r brig yng nghystadleuaeth y wobr farddoniaeth

Mae Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe wedi ennill y categori Barddoniaeth Gymraeg yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru mewn seremoni fawreddog yn Aberystwyth.

Mae Cyrraedd a Cherddi Eraill (Barddas) gan yr Athro Brifardd Alan Llwyd yn gasgliad o gerddi bywgraffyddol  sy’n dathlu’r ffaith fod y bardd wedi cyrraedd 70 oed.

Datgelwyd enillwyr y categoriau mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 20 Mehefin, gydag enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000 a thlws wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Cyfrol o gerddi a luniwyd rhwng 2016 a 2018 yw Cyrraedd a Cherddi Eraill. Yn adran gyntaf y gyfrol, ‘Cyrraedd’, ceir ychydig dros 70 o gerddi sy’n dathlu’r ffaith fod y bardd wedi cyrraedd oed yr addewid. Cerddi bywgraffyddol a phersonol yw’r rhain sy’n gorfoleddu ac yn galaru, yn llawenhau ac yn tristáu wrth edrych yn ôl ar droeon taith ei fywyd. Ceir yn y cerddi amrywiaeth o fesurau ac yn gefnlen i’r cyfan mae’r môr yn bresenoldeb amlwg, un ai fel rhan naturiol o ddaearyddiaeth y cerddi, neu fel delwedd neu symbol. Cerddi achlysurol, rhai’n bersonol a rhai’n gymdeithasol, a geir yn ail adran y gyfrol.

Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni roedd y darlledwr adnabyddus ac awdur chwaraeon, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd ac awdur Idris Reynolds, cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn 2017 am ei gofiant i Dic Jones, Cofio Dic (Gwasg Gomer). Wrth ddyfarnu’r wobr i Alan Llwyd, meddai’r Prifardd Idris Reynolds fod “meistrolaeth Alan Llwyd ar yr amrywiol fesurau yn rhyfeddol a’r cynganeddu yn mynd â’ch gwynt.”

Mae’r Athro Brifardd Alan Llwyd yn fardd ac yn llenor adnabyddus ac  fe’i penodwyd yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe yn 2013. Cyhoeddodd nifer helaeth o gyfrolau o farddoniaeth, gan gynnwys dau gasgliad cyflawn, yn ogystal â blodeugerddi, cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, cyfrolau ar hanes a diwylliant Cymru a chyfrolau arbenigol ar y gynghanedd. Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd ym 1973, ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ym 1976. Bu’n gweithio fel swyddog gweinyddol Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod a hefyd fel golygydd y cylchgrawn o 1981 hyd 2011.

Meddai Dr Rhian Jones, Pennaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe: “ Mae’r Adran gyfan mor falch o gamp Alan ac yn ei longyfarch yn wresog. Rydym yn ffodus iawn o gael rhywun o’i allu eithriadol fel aelod o’r Adran a fydd yn medru ysbrydoli ac ysgogi’r genhedlaeth nesaf o lenorion ac ysgolheigion.”    

 

Llun o glawr llyfr cerddi Alan Llwyd