Apêl am gymorth gyda chlefyd Alzheimer

Apêl am wirfoddolwyr dwyieithog i gynorthwyo gydag ymchwil i glefyd Alzheimer.

Mae ymchwilwyr yn Adran Seicoleg Ysgol Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe yn apelio am wirfoddolwyr dwyieithog i’w helpu gyda phrosiect arloesol allai helpu canfod modd o arafu symptomau’r salwch.  Mae ymchwil Kyle Jones, myfyriwr PhD  dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn canolbwyntio ar natur y nam iaith mewn dementia, gan edrych yn arbennig ar siaradwyr Cymraeg.

Meddai  Kyle : “Fe fydd yr ymchwil yma yn datblygu ein dealltwriaeth o glefyd Alzheimer ac yn arwain at driniaethau gwell.  Rydw i'n cynnal arbrawf newydd ar effaith clefyd Alzheimer ar swyddogaethau gwybyddol, fel prosesu iaith. Yn benodol rwy'n ceisio gweld pam fod rhai unigolion yn datblygu symptomau'r clefyd yn gyflymach nag eraill, fel y bydd modd dod o hyd i ffyrdd i arafu’r salwch.”

Er mwyn medru mesur effaith y clefyd ar iaith, mae angen cymorth gwirfoddolwyr dwyieithog iach, sy'n siarad Cymraeg a Saesneg,  a hynny cyn gynted â phosib.

Bydd gofyn i wirfoddolwyr lenwi  holiaduron ac yn dilyn hynny, byddant yn cymryd rhan mewn cyfres o dasgau iaith a chanolbwyntio.  Bydd pob tasg yn cymryd tua 10-20 munud, a bydd y cyfan yn cymryd tua dwy awr. Bydd yr holl ddata yn gwbl anhysbys  ac yn gyfrinachol. Nid yw’r tasgau chwaith yn mesur deallusrwydd na dementia mewn unigolion.   

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Dyma ymchwil arloesol a fydd nid yn unig o gymorth yn y frwydr yn erbyn clefyd Alzheimer, ond hefyd yn fodd o godi statws y Gymraeg o fewn maes ymchwil gwyddonol. Rwy’n galw yn garedig ar bobl Cymru i estyn cymorth i Kyle a’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe a chyfrannu i’r prosiect hanfodol bwysig hwn.”

Gall unigolion a grwpiau sydd yn awyddus i wirfoddoli gysylltu â Kyle Jones drwy ebostio661444@swansea.ac.uk neu ffonio 07709 563 975.