Bod yn Ddynol 2019

Canfod cyfrinachau'r blaned

Cafodd disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Tirdeunaw ac Ysgol Gymraeg y Login Fach y cyfle ddarganfod mwy am 'Hanes Cudd yr Hinsawdd' fel rhan o ŵyl Bod yn Ddynol 2019.

Dan arweiniad yr Athro Siwan Davies, arbenigwr rhyngwladol ar newid hinsawdd a phennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, bu'r disgyblion yn dysgu am sut mae canfod cyfrinachau cudd y blaned sy'n celu yn nyfnderoedd meysydd iâ yr Ynys Las.

Yna, wedi cyfle i archwilio’r dystiolaeth am newid hinsawdd yn y labordy, bu'r bardd Grug Muse, myfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe yn arwain gweithdy barddoniaeth gan ysgogi'r plant i ymateb ar ffurf cerdd i’r darganfyddiadau hyn am orffennol a dyfodol y ddaear. 

Dewiswyd Prifysgol Abertawe fel un o chwech canolfan ar gyfer Bod yn Ddynol 2019, unig ŵyl ddyniaethau genedlaethol y DU ac Academi Hywel Teifi fu'n trefnu unig ddigwyddiad cyfrwng cymraeg yr ŵyl.  Gyda’r thema ‘Darganfyddiadau a Chyfrinachau’, cynhaliwyd dathliad y dyniaethau eleni rhwng 14 a 23 Tachwedd 2019, gyda chyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ledled Abertawe.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, arweinir Bod yn Ddynol gan yr ysgol astudiaethau uwch ym Mhrifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Mae’r bartneriaeth hon yn dwyn ynghyd y tri phrif gorff sy’n ymroi i gefnogi a hyrwyddo ymchwil yn y dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cliciwch yma i weld oriel o luniau o ddigwyddiad Hanes Cudd yr Hinsawdd. 

Dyma gerdd luniwyd yn y sesiwn Being Human