Atgofion Abertawe - Rhian Jones

Rheolwr Lleoliad a Gweithrediadau Canolfan Celfyddydau Taliesin

Dywedwch ychydig wrthym am astudio yn Abertawe a beth yw eich swydd erbyn hyn.

Dw i wedi profi amrywiaeth o swyddi dros y blynyddoedd! Fy mhrif ddiddordebau yw addysg (yn ei gwahanol ffurfiau), datblygu cymunedol a rheoli prosiectau. Ers mis Ionawr, fi yw Rheolwr Lleoliad a Gweithrediadau Canolfan Celfyddydau Taliesin, reit yng nghanol Campws Singleton.

Astudiais i Ffrangeg ac Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes a graddio yn 2001. Treuliais i flwyddyn yn teithio Awstralia a Seland Newydd wedi graddio. Bues yn casglu grawnwin, yn sortio winwns a thatws ac yn gweithio mewn ffair – jyst unrhyw beth i ’neud ychydig o bres i allu mynd mlaen i’r dalaith nesaf!

Rhian Jones

Rheolwr Lleoliad a Gweithrediadau

Rhian Jones heddiw

Ar ôl dod nôl i Gymru bues yn gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus yn fy nhref enedigol, Aberystwyth. Anfonodd ffrind e-bost ata i yn dweud bod prifysgol yn Llydaw yn chwilio am diwtor Cymraeg, ac roedd angen gallu siarad Ffrangeg. Felly dyma fi yn anfon fy CV a deufis yn ddiweddarach ro’n i ar gwch i St Malo! Treuliais ddwy flynedd hapus iawn yn Rennes. Un o’r uchafbwyntiau oedd trefnu taith ieithyddol a diwylliannol i Gymru i’r myfyrwyr.

Bues i wedyn yn cyfieithu am gyfnod byr i adran farchnata Prifysgol Abertawe, ac wrth fy modd yn ôl ar gampws Singleton, er ychydig yn hiraethus am fy nyddiau Coleg!

Bum yn Gydlynydd Addysg i’r elusen dai a phobl, Shelter Cymru ac yn Brif Weithredwr cyntaf Canolfan Cymry Llundain. Treuliais 8 mlynedd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel Swyddog Celfyddydau a Dyniaethau ac yna fel Rheolwr Academaidd. Bues yn Uwch Reolwr ar raglen TAR y Brifysgol Agored cyn ymuno gyda Phrifysgol Abertawe ddechrau 2023.

Mae’r swydd yma yn teimlo fel fy mod wedi dod adre’!

Ffrangeg ac Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes

2001

Rhian Jones yn ystod ei hamser yn y Brifysgol

Pam Abertawe?

Doedd dim llawer o gyfoedion o’r ysgol yn dod i Abertawe bryd hynny. Roedd y rhan fwyaf yn anelu am Fangor, Caerdydd neu’n aros yn Aber. Falle mai awydd i fod ychydig yn wahanol, ac fe dalodd ar ei ganfed! Bues i ar gwrs preswyl yn Fferm Clyne ym mlwyddyn 12 a dw i’n meddwl bod hynny hefyd wedi dylanwadu ar fy mhenderfyniad. Ro’n i jyst wrth fy modd gyda’r lleoliad a’r golygfeydd a bod rhwng y wlad, y ddinas, y môr ac ambell fynydd!

Ro’n i wir yn hoffi’r syniad o astudio tri phwnc hefyd, ac Abertawe oedd yn cynnig y cyfle hwnnw.

Soniwch ychydig am eich amser yn Abertawe a’ch hoff bethau am y Brifysgol

Cefais fodd i fyw fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe. Fe gwympodd popeth i’w le – y cwrs, y bywyd cymdeithasol, y cyfeillgarwch, y llety a’r ddinas. Dw i’n cofio llefain y glaw ar ddiwrnod olaf y flwyddyn gyntaf, wrth sylweddoli na faswn yn gweld y gang coleg am dri mis!  

Ro’n i’n aelod brwd o’r Gymdeithas Gymraeg ac yn chwarae i dîm pêl-droed y merched. Roedd y ddau beth yn golygu tripiau i brifysgolion eraill a thaith wych i Belfast yn 1998 i gynrychioli tîm pêl-droed merched Prifysgolion Cymru.

Ro’n i wrth fy modd yn gallu astudio rhan o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn cyn dyddiau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwy’n ddiolchgar iawn am flaengaredd ac ymroddiad y darlithwyr wnaeth hynny’n bosib. Roedd yn deimlad hollol naturiol i drafod Ffrangeg ac Almaeneg drwy’r Gymraeg. Bues i hefyd yn ffodus o dreulio blwyddyn dramor fel rhan o’r cwrs. Profiad bythgofiadwy arall a mwy o ddagrau pan ddaeth i ben!

Mae dau gampws ym Mhrifysgol Abertawe erbyn hyn, wrth gwrs. Mae Campws y Bae yn fodern iawn ond bydd Campws Singleton bob amser yn agos iawn at fy nghalon. Dw i jyst yn teimlo’n gartrefol pan dw i yma. Mae bwrlwm ond teimlad digon hamddenol hefyd.

Mae’r ffrindiau wnes i yn y Brifysgol yn ffrindiau oes. Rydyn ni wedi rhannu rhai o brofiadau gorau’n bywydau ac wedi tyfu’n oedolion gyda’n gilydd, a hynny yn un o ardaloedd prydfertha, mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru (yn fy marn i!).

Beth fyddech chi’n ddweud wrth rywun sy’n ystyried dod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Fy nghyngor i byddai dod i Ddiwrnod Agored Prifysgol Abertawe. Hyd yn oed os yw’r tywydd yn ddiflas, mae’r hwyliau’n dda a’r croeso’n dwymgalon. Er ei bod hi’n ddinas, mae yna agosatrwydd arbennig yn perthyn i Abertawe a dw i’n meddwl bod trigolion yn gwerthfawrogi cyfraniad myfyrwyr i ddiwylliant ac economi’r ardal.

Mae cyfleoedd di-ri drwy Gangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol os wyt ti am astudio drwy’r Gymraeg ac mae canolfan Tŷ Tawe yng nghanol y ddinas yn croesawu myfyrwyr sy’n siarad neu’n dysgu’r iaith i ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Dw i wedi gadael Abertawe sawl gwaith ond dyma ble dw i wedi dychwelyd bob tro. Mae hynny yn dweud cyfrolau. Dw i’n ystyried fy hun yn hanner Cardi ac hanner Jac erbyn hyn. Dw i’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi ymgartrefu a chael swydd dw i’n ei mwynhau mewn dinas a phrifysgol sy’n golygu cymaint i fi. Dw i’n aelod balch iawn o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ac yn gobeithio gallu cyfrannu mwy at ymgyrchoedd i ddenu a chefnogi myfyrwyr, yn y gobaith y byddan nhw hefyd yn mwynhau’r profiadau unigryw y gwnes i chwarter canrif yn ôl fel myfyrwraig, ac yn parhau i wneud heddiw fel aelod o staff.