Diwrnod Blasu Iechyd, Hydref 2022

Disgyblion yn cael blas o’r cyrsiau Gofal Iechyd sydd ar gael yn ystod sesiwn ymarferol

Diwrnod Blasu Iechyd i ddisgyblion 6ed dosbarth o ysgolion a cholegau

Ym mis Hydref, pleser oedd gallu cynnal Diwrnod Blasu Iechyd ar Gampws Singleton i ddisgyblion 6ed dosbarth o ysgolion a cholegau Addysg Bellach lleol. Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal y digwyddiad hwn yn flynyddol ers peth amser bellach ac yn y gorffennol, mae’r Diwrnodau Blasu Iechyd wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg darpar fyfyrwyr. Nod y Diwrnodau hyn yw rhoi blas i ddarpar fyfyrwyr o’r cyrsiau Gofal Iechyd sydd ar gael yn y Brifysgol drwy gynnal sgyrsiau a sesiynau ymarferol ym maes Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwaith Cymdeithasol.

Dyma oedd y diwrnod cyntaf o’i fath i gael ei gynnal ers y cyfnod clo ac fe’i trefnwyd gan Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyd â Choleg Gŵyr, gyda chefnogaeth Academi Hywel Teifi. Daeth criw o ddisgyblion brwd i weld y cyfleusterau arloesol sydd gan Brifysgol Abertawe ac i ddysgu mwy am astudio’r pynciau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.

Meddai Indeg Owen, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; "Roedd hi'n bleser gallu gwahodd darpar fyfyrwyr yn ôl ar y campws ar ôl dwy flynedd o sesiynau ar-lein, er mwyn rhoi cyfle iddynt brofi'r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe."

"Mae diwrnodau fel hyn yn gyfle gwych i atgyfnerthu ein perthynas efo ysgolion a cholegau lleol a chreu llwybr clir i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch sydd ar drothwy eu drws."