Ehangu ar ap Cymraeg arloesol Prifysgol Abertawe ar gyfer y sector iechyd a gofal

Datblygu ar ap i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal i ddefnyddio’r Gymraeg

Mi fydd Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn lansio diweddariad ar ei ap Gofalu Trwy’r Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd am 2pm ddydd Mercher 30 Mai.

‌Mae’r ap, sy’n cefnogi gweithwyr iechyd a gofal i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith, wedi bod mor llwyddiannus nes bod fersiwn newydd, llawnach ar y ffordd, diolch i nawdd pellach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lansiwyd y teclyn dysgu arloesol yn 2011, ac ers hynny mae’r ap, a ddatblygwyd gan gwmni Galactig, wedi cael ei lawrlwytho dros 10,000 o weithiau. Mae’r ap ar gael i bawb yn rhad ac am ddim oddi ar App Store a Google Play.

Gwobrwywyd arloesedd yr ap yng ngwobrau ‘Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol’ Llywodraeth Cymru yn 2014.

Roedd y fersiwn wreiddiol o Gofalu Trwy’r Gymraeg yn cynnwys geiriau, termau ac ymadroddion defnyddiol ym maes iechyd a gofal, er mwyn cynorthwyo a galluogi unigolion sy’n gweithio yn y maes i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chleifion, a thrwy hynny sicrhau bod modd i’r cleifion hynny drafod eu hanhwylderau trwy gyfrwng eu mamiaith.

‌Erbyn hyn, mae’r ap wedi’i ehangu’n sylweddol yn ôl Lynsey Thomas o Academi Hywel Teifi sydd wedi arwain ar y gwaith o ddatblygu’r ap: 

“Mae’r diweddariad hwn yn gyfle i sicrhau profiadau dysgu gwell i’r defnyddwyr. Adeiladwyd yr ap gwreiddiol bron i bum mlynedd yn ôl, felly mae hwn yn gyfle i ni adnewyddu’r ap â gwedd gyfoes a modern.

“Mae adrannau ychwanegol o derminoleg ac ymadroddion sy’n benodol ar gyfer meddygon, ymwelwyr iechyd, gweithwyr gofal a ffisiotherapyddion wedi’u creu, gyda’r ynganiadau’n cael eu llefaru unwaith eto gan Nia Parry, y tiwtor iaith a’r gyflwynwraig deledu, sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe.

“Ymhlith y datblygiadau newydd eraill mae cyfarwyddyd i weithwyr ar gynnal sgyrsiau anffurfiol ar bynciau fel y tywydd, er mwyn tawelu meddyliau eu cleifion. Hefyd, mae gallu gan yr ap i anfon hysbysiadau ymwthiol i ffonau defnyddwyr, er enghraifft Ymadrodd y Dydd, a’r gobaith yw bydd hyn yn procio ac yn annog defnyddwyr i ddal ati i ddefnyddio’r ap a’u Cymraeg”.

Meddai Dr Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:  “Mae’r Coleg yn falch iawn o gefnogi adnodd sydd wedi profi i fod mor werthfawr a phoblogaidd ymysg gweithwyr iechyd a gofal yma yng Nghymru.

“Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn astudio rhan o’u cyrsiau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, ond mae angen gwneud mwy i ddenu myfyrwyr i’r maes iechyd a hyderaf y bydd yr ap yma yn un adnodd a allai fod o fudd mawr iddynt wrth hyfforddi”. 

“Mae’r budd y mae myfyrwyr a staff wedi ei gael o’r ap dros y blynyddoedd yn destun balchder i Academi Hywel Teifi, ac rwy’n ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am gyd-fuddsoddi ymhellach ynddo,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

Delwedd o'r ap Gofalu ar ffon symudol