Ap newydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gyfrannu at adnodd iaith cenedlaethol

Bydd yr ap yn hwyluso'r gwaith o gasglu geiriau ac ymadroddion bob dydd siaradwyr Cymraeg.

Mae modd bellach i siaradwyr Cymraeg o bob cefndir recordio eu sgyrsiau i fod yn rhan o brosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes. 

‌Nod y prosiect aml-sefydliad £1.8 miliwn yw datblygu'r casgliad cyntaf erioed ar raddfa fawr o eiriau Cymraeg sy'n cynrychioli'r holl amrywiaeth o iaith fel y mae pobl ar lawr gwlad yn ei defnyddio, gan gynnwys Cymraeg ffurfiol a thafodieithoedd rhanbarthol.

Mae lansiad yr ap yn garreg filltir sylweddol ym mhrosiect CorCenCC. 

Un o arweinwyr y prosiect yw Steve Morris o Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi. Meddai : "Mae'r ap yn ei wneud yn hawdd i siaradwyr Cymraeg gymryd rhan yn y prosiect, ac yn galluogi pobl i gyfrannu pryd bynnag mae'n gyfleus iddyn nhw, sy'n ei wneud yn brofiad mwy personol o lawer. Drwy wneud siaradwyr eu hunain yn gyfrifol am gyfrannu at y corpws, gallant fod yn sicr mai'r recordiadau mor naturiol a chywir â phosibl o Gymraeg bob dydd fydd yn cael eu rhannu."

Mae'r prosiect wedi'i arwain gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd ac mae'n dod ag amrywiaeth o gydweithwyr at ei gilydd, gan gynnwys Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor a Chaerhirfryn; Llywodraeth Cymru; Cynulliad Cenedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; CBAC; Cymraeg i Oedolion; S4C; BBC; y Lolfa; SaySomethingin.com a Geiriadur y Gymraeg.

Mae CorCenCC hefyd wedi’i gefnogi gan lysgenhadon blaenllaw gan gynnwys y bardd Damian Walford Davies, y gerddores a chyflwynydd Cerys Matthews,, a’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens.

Mae cyn-fyfyriwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, y cyflwynydd teledu Nia Parry,  hefyd yn un o lysgenhadon y CorCenCC. Meddai : "Bydd CorCenCC yn llywio dyfodol addysgu a dysgu’r iaith Gymraeg. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ein hiaith hynafol, farddonol, gyfoethog, arbennig ni. Byddwn yn dysgu am sut rydym yn strwythuro brawddegau, treigladau, geiriau sathredig, ieithwedd negeseuon testun ac ebost, sut rydym yn talfyrru, beth a ddywedwn a sut rydym yn ei ddweud.

"Bydd y corpws yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn fy marn i mae’r gwaith hwn o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol, nid yn unig yn ieithyddol ond fel cofnod o’n hanfod ni fel cenedl a’n lle yn y byd."

Ychwanegodd Nigel Owens: "Bydd y corpws yn cynnwys enghreifftiau o’r Gymraeg ym mhob parth: o'r cae rygbi a’r stiwdio deledu, i areithiau gwleidyddol a gwerslyfrau academaidd. Bydd gan ddysgwyr, geiriadurwyr, darlledwyr a phob un ohonom sy'n defnyddio'r iaith bob dydd gofnod o’r iaith fel y’i defnyddir o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn ein helpu i weld sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y Gymru sydd ohoni. "

Ariennir CorCenCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.