Atgofion Abertawe - David ac Eiry

Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ddod â ni at ein gilydd

Dai ac Eiry heddiw

Eiry Miles a David Bryer yn rhannu eu hatgofion melys o’u hamser yn Abertawe.

Mae Eiry Miles a David Bryer yn ddau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Ar ôl cwrdd yn ystod eu hamser yn y Brifysgol, maen nhw bellach yn briod gyda dau o blant. Gan ein bod yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen ym mis Ionawr, dyma’r cwpwl yn rhannu eu hatgofion melys o’u hamser yn Abertawe.

Beth astudiodd y ddau ohonoch yn y Brifysgol a beth yw eich swyddi erbyn hyn?

Eiry: BA Cymraeg, 2000 ac MPhil Llenyddiaeth Gymraeg yn 2002. Wedi hynny, gwnes nifer o swyddi amrywiol yn gysylltiedig â’r Gymraeg, gan gynnwys bod yn Swyddog y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, Tiwtor Cymraeg ym Mhatagonia ac awdur adnoddau i ddysgwyr Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu ac addasu nifer o lyfrau i blant ac oedolion. Ers mis Ionawr eleni, rwy’n Olygydd Llyfrau Plant i Gyhoeddiadau Rily.

Dai: BA Astudiaethau Americanaidd 2001. Ar ôl graddio, bûm yn gwneud brechdanau yn siop Panini’s yn Abertawe am gyfnod cyn cael fy mhenodi’n Swyddog Datblygu gyda’r Urdd. Wedi hynny, gweithiais am flynyddoedd i Fenter Iaith Abertawe a dod yn Brif Swyddog y Fenter yn y pen draw. Yna, cefais swydd Cyfarwyddwr Talaith y De yn yr Urdd. Yn 2020, penderfynais newid cyfeiriad a gwnes gwrs Ymarfer Dysgu. Erbyn hyn rwy’n athro Saesneg yn Ysgol Bro Preseli, ac yn mwynhau’r swydd yn fawr.

 

David ac Eiry

yn ystod eu hamser yn y Brifysgol

David ac Eiry yn ystod eu hamser yn y Brifysgol

Soniwch ychydig am eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe:

Dai: A minnau’n ogleddwr o Ddyffryn Clwyd, ro’n i’n beth eithaf prin yn Abertawe, ond cefais groeso cynnes gan griw’r Gym Gym. Braf hefyd oedd cwrdd â phobl o bob rhan o’r byd ar y campws a chael treulio blwyddyn fythgofiadwy yn Mississippi. Roedd yn hawdd gwneud ffrindiau gyda phobl o bob cefndir oherwydd bod pawb – waeth beth oedd eu pwnc astudio – yn cael eu darlithoedd ar y Campws.

Eiry: Rwy’n cofio teimlo’n gartrefol yn syth yng nghwmni criw bywiog llawr Cymraeg Neuadd Sibly, ac rydym yn ffrindiau da o hyd. Cawson ni lawer o nosweithiau gwych gyda’r Gym Gym a chefais y fraint o fod yn Gadeirydd (digon anhrefnus!) ar y gymdeithas honno. Profiad arbennig arall oedd gweithio fel cyfieithydd yn Undeb y Myfyrwyr, a dod i adnabod staff a swyddogion o bob rhan o’r byd.

 

Rhannwch eich 3 hoff beth am Abertawe:

  • Y Mwmbwls, er bod y lle wedi newid cryn dipyn ers ein dyddiau coleg, a’r ‘Mumbles Mile’ wedi hen fynd! Rydym yn mwynhau mynd am dro yno ar ein beics gyda’r plant.
  • Tŷ Tawe, Canolfan Gymraeg Abertawe. Ar ôl graddio, treuliodd y ddau ohonom lawer o amser yno, yn gweithio, yn trefnu gigs Cymraeg ac yn cymdeithasu. Mae gennym atgofion melys o nosweithiau Gwener y Grolsch!
  • Campws y Brifysgol. Mae’n fywiog, mae popeth yn gyfleus a gallwch gerdded i bobman. Ar ben hynny, mae’n agos iawn at y môr wrth gwrs. Rydym wedi dychwelyd i’r campws sawl gwaith ers graddio ac mae awyrgylch arbennig yno o hyd.

 

Pam dewisoch chi astudio yn Abertawe?

Dai: Ro’n i’n awyddus i astudio yng Nghymru ac roedd Abertawe yn cynnig Astudiaethau Americanaidd, a oedd yn apelio ataf yn fawr oherwydd fy niddordeb mewn llenyddiaeth, ffilmiau a gwleidyddiaeth. Roedd y campws yn atynfa hefyd, oherwydd bod popeth mor gyfleus, a’r môr dafliad carreg i ffwrdd.

Eiry: Ro’n i eisiau astudio’r Gymraeg ac yn awyddus i fynd i rywle newydd a gwahanol. Roedd enw da gan Adran Gymraeg Abertawe, roedd yn ddigon pell o Bontypridd ond yn ddigon agos pe bai’n rhaid mynd adref am ryw reswm. Pan es i am gyfweliad i’r Adran Gymraeg, roedd pawb yn gyfeillgar dros ben ac fe greodd y Campws dipyn o argraff arnaf. Cefais flas mawr ar y cwrs hefyd, a phenderfynu aros yn Abertawe i wneud Mphil ar ôl graddio.

 

Sut wnaethoch chi gwrdd

Eiry: Cwrddon ni yn nigwyddiadau’r Gym Gym, a byddem hefyd yn gweld ein gilydd mewn gigs oherwydd ein bod ni’n hoffi’r un bandiau (yn enwedig y Super Furry Animals). Roedden ni’n ffrindiau am ychydig fisoedd cyn dod yn gariadon yn ein hail flwyddyn yn y Brifysgol. Treuliodd Dai ei drydedd flwyddyn yn Mississippi. Roedd yn anodd bod hebddo, yn enwedig cyn dyddiau What’s App a Facetime! Ond treuliais wyliau’r Nadolig gyda Dai yn UDA ac aeth yr amser yn gyflym wedi hynny yng nghanol prysurdeb fy mlwyddyn olaf. Priodon ni yn 2007, ac rydym bellach yn byw yn Llanddarog, Sir Gaerfyrddin. Mae gennym ddau o blant, sef Gwyn (12 oed) ac Angharad (10).

Dai: Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ddod â ni at ein gilydd a rhoi llu o brofiadau a chyfleoedd gwych i ni.