Academi Hywel Teifi yn cyfrannu at arlwy yr Eisteddfod AmGen

Sesiynau amrywiol yn adlewyrchu ystod arbenigedd yr academyddion cyfrwng Cymraeg

Er y bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni yn sgîl y pandemig, roedd Academi Hywel Teifi yn falch iawn o fedru cyfrannu sesiynau amrywiol i arlwy arlein Gŵyl AmGen yr Eisteddfod a gynhaliwyd rhwng 1-8 Awst 2020. 

Ymhlith digwyddiadau’r wythnos, bu Academi Hywel Teifi yn cynnal sesiynau amrywiol ac amserol ym mhebyll rhithwir y Cymdeithasau, y Babell Wyddoniaeth a’r Babell Lên gan adlewyrchu ystod arbenigedd yr academyddion cyfrwng Cymraeg sydd ar staff Prifysgol Abertawe.

Ymunodd 500,000 o bobl yn yr hwyl ar-lein yn ystod yr wythnos ac mae rhagor wedi gwylio’r digwyddiadau nôl ers hynny.

Gallwch wylio sesiynau Academi Hywel Teifi yma:

Logo Eisteddfod AmGen

Safbwyntiau ar Gymru - Dinasyddiaeth a Hunaniaeth

Trafodaeth yn deillio o waith ysgolheigion Prifysgol Abertawe sy’n rhan o gyfres ‘Safbwyntiau’ Gwasg Prifysgol Cymru - gyda Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Dr Simon Brooks o Academi Morgan, yr Athro Daniel Williams o Ganolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Dyfodol, Delyth Jewell AS.

Prifysgol wedi’r Pandemig

Trafodaeth ar rôl a gwaith prifysgolion yn y 'normal newydd' a'r effaith ar sefydliadau Cymru ac addysg cyfrwng Cymraeg - gyda Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Alpha Evans o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, yn cadeirio.

Cofio Hywel Teifi

Ddegawd ers colli’r Athro Hywel Teifi Edwards a sefydlu Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe yn ei enw, cyfle i gloriannu ei gyfraniad unigryw i ysgolheictod a diwylliant Cymru yng nghwmni yr Athro Geraint H. Jenkins, cymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, yr Athro M. Wynn Thomas o Adran Saesneg Prifysgol Abertawe, yr Arglwydd Dafydd Wigley a chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon. Mae hefyd gyfle i fwynhau ei ddoniau di-hafal fel darlithydd drwy ail-wylio clipiau o archif y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyfraniad Cymru i Guro Covid

Sgwrs amserol gan Dr Angharad Puw Davies, arbenigwr ar afiechydon heintus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ar gyfraniadau gwyddonwyr a phoblogaeth Cymru i’r gwaith o fynd i’r afael â coronafeirws a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio atal y pandemig.

Byd Natur a Covid

Sgwrs rhwng y naturiaethwr a chymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe Iolo Williams a'r Athro Siwan Davies, Pennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe ac arbenigwr rhyngwladol ar newid hinsawdd. Trafodaeth amserol am effaith y pandemig ar ein hymwneud â byd natur a sut mae byd natur wedi ymateb i'r newidiadau cymdeithasol anferthol sydd wedi digwydd yn sgil y feirws.

Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi

Yn Eisteddfod Llanrwst llynedd fe lansiwyd ysgoloriaeth newydd i goffáu cyfraniad unigryw a gwerthfawr Hywel Teifi Edwards i addysg a diwylliant Cymru ac i sicrhau parhad ei weledigaeth sef cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel genedlaethol a chymunedol.  Bydd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yn cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes yn ymwneud â chyfraniad Hywel i ddysg a diwylliant Cymru.

Roedd yn fwriad gan yr Academi i gynnal digwyddiadau i godi arian at yr Ysgoloriaeth eleni, a gwobrwyo deiliad cyntaf Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yn yr Eisteddfod oedd i fod i'w chynnal yn sir enedigol Hywel. Gyda'ch cymorth chi gallwn wneud hynny y flwyddyn nesaf, pan fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron.

Pe bai modd i chi gyfrannu £5 y mis, sy’n llai na chost un paned o goffi yr wythnos, gallwn gynnig y gefnogaeth werthfawr hon i fyfyrwyr a'n chynorthwyo i weithredu fel sefydliad sydd yn agor drws ar ddyfodol disglair i Gymry Cymraeg, tra ar yr un pryd goffáu cyfraniad arbennig Hywel i Gymru.

Gallwch gyfrannu yma