Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi arlwy GwyddonLe T 2021

Cyfres o ddigwyddiadau byw, adnoddau a fideos i’r teulu cyfan

Mae Prifysgol Abertawe yn falch unwaith eto eleni o noddi a chydlynu un o brif atyniadau Eisteddfod-T yr Urdd, sef llwyfan GwyddonLe, a chynnig cyfres o ddigwyddiadau byw, adnoddau a fideos sy’n weithgareddau addysgiadol difyr i’r teulu cyfan. 

Bydd modd gwylio’r fideos a’r adnoddau trwy ap Eisteddfod-T neu ar dudalennau Facebook Academi Hywel Teifi ac Eisteddfod yr Urdd o’r 31ain o Fai ymlaen. Bydd digon yno i ddiddanu ac addysgu plant a phobl ifanc dros hanner tymor.

Eleni, crëwyd y fideos gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe, ac maent yn cynnwys arbrofion y gall plant a phobl ifanc eu gwneud gartref:

  • Sut mae planhigion yn cymryd dŵr wrth ddefnyddio'r sylem, gyda Dr Gethin Thomas
  • Llosgfynyddoedd, gyda Tom Kemp
  • Y Synhwyrau, gyda Dr Alwena Morgan
  • Arbrawf Batri Ceiniog, gyda Carys Worsley
  • Toddion ac Osmosis, gyda Dr Gethin Thomas
  • Sut mae dull Gauss yn gweithio i gyfrifo cyfanswm, gyda Dr Kristian Evans
  • Haematoleg: Grwpio Gwaed, gyda Dr Alwena Morgan

Bydd Technocamps yn cynnal dwy sesiwn fyw ‘Achub y Gofodwr’ ar Zoom yn ystod wythnos fel rhan o arlwy’r GwyddonLe hefyd. Mae’r sesiynau, a gynhelir ar brynhawn dydd Mawrth 1 Mehefin, a bore dydd Gwener 4 Mehefin, yn addas ar gyfer plant 9-13 mlwydd oed. Bydd angen i blant ddatrys problemau i achub "gofodwr" a bydd cyfle iddynt holi cwestiynau am y gofod hefyd. I gofrestru, cliciwch ar y dolenni isod;

Ymhlith yr adnoddau i’w lawrlwytho mae chwilair, cwis emoji, pecyn o weithgareddau gan Technocamps a phoster er mwyn adnabod rhannau’r corff dynol. 

Ar brynhawn dydd Mawrth, cyhoeddir canlyniad cystadleuaeth y GwyddonLe ar S4C, gyda’r beirniad Dr Alwena Morgan o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, yn pwyso a mesur y 40 ymgais sydd wedi dod i law cyn cyhoeddi enw’r enillydd.

Ar ddydd Gwener 4 Mehefin, cynhelir cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Her Sefydliad Morgan a drefnir gan Academi Hywel Teifi. Bydd siaradwyr o dair ysgol – Ysgol Bro Dinefwr, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gŵyr – yn mynd benben mewn dadl ar y testun ‘Ai nawr yw’r amser i ddatgan argyfwng yr hinsawdd?’

Nod y gystadleuaeth, a noddir gan Her Sefydliad Morgan, yw rhoi cyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a chyflwyno dadl yn ogystal â derbyn adborth gan feirniaid blaenllaw. Y beirniaid eleni yw Ben Lake AS a’r arbenigwr blaenllaw ar yr argyfwng hinsawdd, yr Athro Siwan Davies.

Bydd y siaradwr gorau o blaid ac yn erbyn y testun gosod yn derbyn £250 yr un i’w hysgolion, a bydd yr enillydd yn derbyn lleoliad gwaith a drefnir gan Academi Hywel Teifi. Darlledir y gystadleuaeth yn fyw ar Facebook rhwng 12pm-1pm.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: “Rydym yn edrych ymlaen unwaith eto eleni at gynnig gwledd o weithgareddau trwy GwyddonLe-T gan arddangos ystod o arbenigeddau gwyddonwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe. Mae’r Brifysgol yn falch o’n partneriaeth gyda’r Urdd ac o barhau â’n gwaith o hybu pynciau gwyddoniaeth a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg ac o ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.”