Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019

Eisteddfod brysur a llwyddiannus!

Cydlynwyd rhaglen uchelgeisiol a llawn o weithgareddau gan Academi Hywel Teifi ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst rhwng 3-10 Awst 2019, gan roi llwyfan i ymchwil ac arbenigedd myfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe.   

Canolbwynt gweithgareddau’r Brifysgol oedd y Babell Lên,  noddwyd am y tro cyntaf gan y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ac am y tair blynedd nesaf.  Uchafbwynt yr wythnos oedd Darlith Goffa Hywel Teifi a draddodwyd yn y Babell Lên ar ddydd Iau, 8 Awst gan yr Athro Gwynedd Parry, Adran y Gymraeg, ar y testun ‘Helbulon Cyfreithiol Beirdd a Llenorion Dyffryn Conwy’. Roedd y ddarlith yn seiliedig ar gyfrol newydd yr Athro Parry  “Y Gyfraith yn ein Llên“ (Gwasg Prifysgol Cymru).  Dilynwyd y ddarlith gan dderbyniad i gyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol yng nghwmni'r canwr a’r cyfansoddwr Huw Chiswell, sy’n gyn-fyfyriwr Adran y Gymraeg. Bu Huw Chiswell hefyd yn rhan o’r digwyddiad ‘Y graig yn sownd o dan ein traed’  ynghyd â Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Abertawe Dewi Pws Morris a Cleif Harpwood yn trafod dylanwad lle a chymuned ar eu caneuon a’u cerddi.

Ymhlith y digwyddiadau eraill yn y Babell Lên yn ystod yr wythnos roedd darlith gan yr Athro M. Wynn Thomas o’r Adran Llenyddiaeth Saesneg, a deiliad Cadair Emyr Humphreys Llenyddiaeth Saesneg Cymru, i nodi pen-blwydd Emyr Humphreys yn 100 eleni. Bu’r Prifardd Aneirin Karadog, myfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg, yn sgwrsio am fyw yn Llydaw gyda’r Prifardd Twm Morys gan drafod ei gyfrol newydd 'Byw Iaith: taith i fyd y Llydaweg' (Gwasg Carreg Gwalch). Ac yn sgil ailgyhoeddiad diweddar y nofel unigryw ‘Nansi Lovell’ gan Honno, sy’n gofnod o berthynas Elena Puw Morgan â’r Romani Cymreig yng ngogledd Cymru yn ystod hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif, fe fu wyresau'r awdures, Dr Angharad Puw Davies (Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe) a Dr Mererid Puw Davies (UCL) yn sgwrsio am ei gwaith a’i bywyd.

Yn ogystal â digwyddiadau’r Babell Lên, bu Academi Hywel Teifi yn trefnu digwyddiadau ar gyfer staff y Brifysgol ledled y maes, gan gynnwys sesiwn drafod gyda Dr Gwennan Higham, o Adran y Gymraeg a  Dr Angharad Closs Stephens o’r Adran Ddaearyddiaeth yn trafod eu hymchwil ar hawliau iaith lleiafrifoedd a mewnfudwyr gyda’r Comisiynydd Cymraeg newydd, Aled Roberts. Bu Dr Simon Brooks o Academi Morgan yn trafod ei ymchwil i effaith tai haf gyda Siân Gwenllian AC ac fe gadeiriodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, drafodaeth ar gydraddoldeb i fenywod gyda Helen Antoniazzi o Chwarae Teg a’r colofnydd Beca Brown.  'Wado'r hen Germans': Profiadau tri brawd o Abertawe yn y Rhyfel Mawr’ oedd teitl y ddarlith a gyflwynodd Dr Gethin Matthews o’r Adran Hanes yn Y Lle Hanes, mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, a oedd yn dadlennu’r ymchwil a fu’n sail i’w gyfrol ‘Having a Go at the Kaiser’ (Gwasg Prifysgol Cymru). A bu’r Athro Daniel G. Williams o’r Adran Llenyddiaeth Saesneg yn trafod y gyfrol ddiweddaraf i ymddangos yn ei gyfres Safbwyntiau (Gwasg Prifysgol Cymru), sef ‘Meddygon yr Enaid: Seicdreiddiad yn y Gymraeg, 1920-1970’ gyda’r awdur Llion Wigley. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon: "Bu'n wythnos fendigedig i'r Brifysgol ar faes y brifwyl yn Llanrwst, lle bu doniau aruthrol staff a myfyrwyr y sefydliad yn glir i'w gweld. Roedd yn braf hefyd cael gwthio'r cwch i'r dŵr gyda dathliadau canmlwyddiant y Brifysgol ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein partneriaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol."

Yr Athro Gwynedd Parry yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi