Torri trwy y Spin

Modiwl unigryw newydd ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe

Bydd modiwl Cymraeg newydd, 'Cymru: Y Senedd, y Straeon a'r Spin' ar gael i fyfyrwyr Adran y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe o fis Chwefror 2017.

Cynlluniwyd y modiwl gan Iwan Williams, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Adran y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Sian Morgan Lloyd, Darlithydd Newyddiaduraeth y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Nod y modiwl cydweithredol hwn a ddatblygwyd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,  ac a fydd ar gael i fyfyrwyr y ddwy Brifysgol, yw sicrhau dealltwriaeth o’r berthynas rhwng gwleidyddion, newyddiadurwyr, lobïwyr a chwmnïau  cysylltiadau cyhoeddus yn y Gymru ddatganoledig, gan gynnwys yr heriau o ran diffyg ffynonellau newyddion.

Meddai  Iwan Williams:  “Mae’r mwyafrif o bobl yng Nghymru yn derbyn eu newyddion o ar draws y ffin; newyddion sydd, yn aml, a wnelo dim gyda realiti bywyd na dinasyddiaeth yng Nghymru. Y syniad wrth wraidd y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda dealltwriaeth ddofn am wleidyddiaeth yng Nghymru, yn ogystal â’r heriau sydd yn wynebu newyddiadurwyr wrth geisio sicrhau ein bod ni fel Cymry’n ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad ac yn ein cymunedau. Wedi’r cyfan, y myfyrwyr hyn yw newyddiadurwyr, cyfathrebwyr a gwleidyddion y dyfodol.”

Ychwanegodd Sian Morgan Lloyd: “Mae pobl ifainc wedi hen arfer derbyn eu newyddion drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, fel canlyniad mae eu hagenda newyddion yn cael ei guradu nid gan olygyddion newyddion, ond gan algoryddmau sydd wedi eu creu yn benodol i geisio annog pobl i ‘hoffi’ ac i rannu digwyddiadau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Gyda chymaint o newyddion ‘ffug’ yn cael eu dosbarthu a’i ddarllen ar hyn o bryd mae angen sicrhau bod myfyrwyr yn gweld tu hwnt i’r penawdau cynhyrfus ac yn datblygu sgiliau craidd i’r diwydiant newyddion heddiw.”

Dywedodd Nick Powell, Pennaeth Gwleidyddiaeth, ITV Cymru: “Ar ôl 18 mlynedd, mae datganoli wedi dod i’w oed ac mae gwleidyddiaeth Cymru bellach yn wahanol iawn. Mae gan Gymru ei hagenda ei hun ac yn fwyfwy, ei chyfreithiau hefyd. Felly mae yna wmbreth o straeon ar gael- ac oes, mae yna sbin hefyd ym Mae Caerdydd.

“Dwi’n rhagweld y bydd y tueddiad yma yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesa ac rwy’n sicr y bydd nifer o bobl ifanc disglair, sydd wedi’u magu yn y Gymru datganoledig, yn cymryd mantais o’r modiwl newydd yma.”

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Adran y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe ewch i https://www.swansea.ac.uk/mediastudies/