Croeso i Gyfres Cychwyn Arni Prifysgol Abertawe, ystod o sesiynau rhithwir sy'n rhedeg dros bythefnos yn nhymor y Gwanwyn, wedi'u cynllunio i dy baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol.
Bydd ein weminarau Bywyd Myfyrwyr yn dy gyflwyno i'r timau allweddol yma yn Abertawe, a fydd yn siarad am amrywiaeth o feysydd, o lety i gyfleusterau chwaraeon.
Bydd pob sesiwn yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb byr ar y diwedd, er mwyn i unrhyw ymholiadau gael eu hateb yn uniongyrchol gan bob tîm. Cadwch lygad am ein cyfres nesaf, i ddod yn fuan.