Gweminarau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

P'un a ydych chi'n cymharu opsiynau astudio neu eisoes yn canolbwyntio ar faes pwnc penodol, mae'r sesiynau hyn yn ffordd ardderchog o gael cipolwg dyfnach ar astudio yn Abertawe.

Mae pob gweminar yn cael ei arwain gan ein harbenigwyr academaidd ac yn rhoi'r cyfle i chi:

  • Darganfod sut beth yw darlithoedd prifysgol
  • Archwilio'ch pwnc o ddiddordeb ymhellach
  • Gofyn cwestiynau am y cwrs, astudio yn y DU, a bywyd yn Abertawe

Dosbarthiadau Meistr - Yr Hydref 2026

Mae ein Cyfres Dosbarthiadau Meistr yn rhoi cyfle i chi gael blas ar ein cyrsiau drwy weminarau ar-lein. Os ydych chi eisoes wedi dewis pwnc neu’n dal i benderfynu, mae’n ffordd wych o ddysgu mwy. 

Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan ein hacademyddion ac yn cynnig y cyfle i gael teimlad o sut beth yw darlithoedd prifysgol, archwilio sawl pwnc o ddiddordeb a gofyn cwestiynau am y cwrs. 

Rydyn ni hefyd yn cynnig gweminarau sydd wedi'u dylunio i gefnogi eich cais i'r brifysgol, gan gynnwys cyfleoedd astudio a chyllid sydd ar gael i chi.

Sylwer, cyflwynir y sesiynau hyn yn Saesneg yn unig.

Cofrestru i’r Gyfres Dosbarthiadau Meistr
Greffeg lliwgar o fyfyrwyr ty allan i'r prifysgol